Newyddion S4C

Buddsoddiad £1 biliwn ar gyfer ffermydd gwynt i Gymru a de-orllewin Lloegr

Tyrbinau gwynt

Bydd rhai o'r ffermydd gwynt mwyaf yn y byd yn cael eu hadeiladu oddi ar arfordiroedd Cymru a de-orllewin Lloegr.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi mai Port Talbot a Phorthladd Bryste ydy lleoliadau’r ffermydd gwynt newydd. 

Y gobaith ydy eu bod nhw’n cynhyrchu 4.5 gigawat o egni adnewyddadwy, sy’n ddigon i bweru dros bedwar miliwn o gartrefi.

Bydd Ystâd y Goron, sy’n rheoli gwely’r môr o amgylch Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, yn partneru gydag Equinor a Gwynt Glas, sef menter ar y cyd rhwng EDF Renewables UK ac ESB. 

Maen nhw’n dweud y bydd hyn yn creu miloedd o swyddi newydd ac yn dod â buddsoddiad o fwy na biliwn o bunnoedd i economi’r DU.

Mewn hwb pellach i ddiwydiant ynni gwynt ar y môr y DU, mae Ystâd y Goron wedi nodi cynlluniau i fuddsoddi hyd at £400m ar gyfer prosiectau ledled y wlad.

Dywedodd Ystâd y Goron fod ymrwymiad i gael o leiaf 3.5% o’r gweithlu yn brentisiaid a bydd o leiaf 10% o weithwyr 19-24 oed ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ar hyn o bryd.

Dywedodd Dan Labbad, Prif Weithredwr Ystâd y Goron: "Mae’n 25 mlynedd bellach ers i ni osod sylfaen i greu marchnad newydd ar gyfer ynni gwynt ar y môr yn y DU, a chreu’r amodau cywir i sefydlu a thyfu technoleg newydd i fod yn ddiwydiant blaenllaw yn y byd.

"Mae ein dewis o EDF Renewables UK, ESB ac Equinor i ddatblygu’r sector ynni adnewyddadwy yn y Môr Celtaidd yn adlewyrchiad cyffrous o ba mor bell ‘dan ni wedi dod yn yr amser hynny, ac yn hwb o hyder yn y dechnoleg newydd hyn ac i ddyfodol hirdymor marchnad y DU fel lle i fuddsoddi."

‘Gostwng biliau ynni am byth’

Dywedodd yr Ysgrifennydd Ynni, Ed Milliband: "Bydd ynni gwynt ar y môr yn drawsnewidiol ar gyfer twf economaidd yng Nghymru a’r de-orllewin, gan agor miloedd o swyddi mewn mannau fel Port Talbot a Bryste, gan gryfhau ein diogelwch ynni a chyflawni adfywiad diwydiannol.

"Mae gan y Môr Celtaidd botensial enfawr i gefnogi ein cenhadaeth i droi’n uwch-bŵer ynni glân, fel y gallwn ostwng biliau ynni am byth trwy ein Cynllun am Newid."

Yn y cyfamser, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens: "Mae hwn yn foment arwyddocaol iawn i’r diwydiant ynni glân yng Nghymru ac un bydd yn dod â dylanwad cadarnhaol ar genedlaethau i ddod.

"Bydd ynni gwynt ar y môr yn helpu i gyflawni’r newid i ynni glân, yn gostwng biliau i aelwydydd ac yn helpu i sicrhau cyflenwad ynni cartref i’r DU.

"Bydd twf economaidd cynyddol a miloedd o swyddi newydd gyda chyflog da yn hwb o hyder i ddiwydiant ynni Cymru a’i weithlu."


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.