Dyn wedi marw ar ôl gwrthdrawiad ar bont yn Rhondda Cynon Taf
Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a fan mewn tref yn Rhondda Cynon Taf.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw wedi’r gwrthdrawiad, ar ffordd yr A4233 ar y bont ym Mhorth, am 17.55 ddydd Mercher 18 Mehefin.
Bu farw dyn 46 oed o Lynrhedynog yn dilyn y gwrthdrawiad.
Mae ymchwiliadau Heddlu De Cymru i’r digwyddiad yn parhau.