Newyddion S4C

Lansio gŵyl ffilm ddigidol i ddathlu pum mlynedd ers sefydlu platfform Am

Un o ffilmiau fer gŵyl ddigidol newydd Am
Un o ffilmiau fer gŵyl ddigidol newydd Am

Mae platfform digidol Am yn lansio gŵyl ffilm ddigidol i ddathlu pum mlynedd ers cael ei sefydlu.

Ers dechrau yn 2020 mae'r platfform wedi tyfu i weithio gyda bron i 500 o bartneriaid. 

Mae Am yn "ofod digidol dwyieithog ac yn cynnig mynediad agored ar gyfer archwilio cyfoeth diwylliant Cymru".

Mae eu gwefan yn cynnwys fideos cerddoriaeth, digwyddiadau cerddorol a gwybodaeth am y byd theatr a ffilm trwy'r Gymraeg.

Bydd gŵyl ffilm ddigidol newydd 'AmCam' yn "taflu goleuni ar greadigrwydd a gwydnwch mewn cymunedau ledled Cymru". 

Yn rhan o'r ŵyl fe fydd pedair ffilm fer newydd yn cael eu dangos am y tro cyntaf, a hynny ddydd Mercher 18 Mehefin.

Dyma'r ffilmiau fydd yn cael eu dangos:

• Pwy Ydw I Heddiw? gan Ffion Pritchard - yn archwilio grymuso menywod ym Mangor.
• Village Artists gan Jon Berg - portread o fywyd creadigol yng Nghwmllynfell.
• Ffenestri Mewnol / Interior Windows gan Harriet Fleuriot sydd yn edrych ar fyfyrdodau gan fenywod hŷn yn y Rhondda.
• The Willow Collective Mairéad Ruane - yn dilyn cymuned greadigol dan arweiniad niwroamrywiol yn y Rhyl.
 

'Arloesol'

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant, bod y platfform wedi cynnig "manteision i bobl creadigol Cymru."

“Hoffwn longyfarch tîm Am ar y garreg filltir drawiadol hon," meddai.

"Rwy’n gyffrous i weld y ffyrdd arloesol y mae wedi tyfu a gwella’n barhaus i ddod yr Amddeinamig, hygyrch a hynod werthfawr ydyw heddiw.

"Heb sôn am y manteision y mae’r platfform yn eu cynnig i bobl creadigol Cymru o ran ei botensial ar gyfer cydweithio a darganfod."

Ychwanegodd Alun Llwyd, Prif Weithredwr Am: “Gwnaed Am yng Nghymru ar gyfer unrhyw un, unrhyw le sydd eisiau cysylltu â diwylliant Cymru.

"Rydym bob amser wedi anelu at adeiladu platfform sy'n agored i bawb – beth bynnag fo'ch oedran, hunaniaeth neu iaith. 

"Rydym yn falch o'r hyn rydym wedi'i adeiladu, ac yn gyffrous am yr hyn sydd nesaf.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.