Newyddion S4C

Damwain Air India: Nifer y bobl sydd wedi marw yn codi i 270

Gwylnos damwain Air India

Mae meddygon bellach yn dweud fod 270 o bobl wedi marw o ganlyniad i ddamwain awyren Air India ddydd Iau. 

Roedd yr awyren yn teithio o Ahmedabad i Gatwick ac yn cario 242 o deithwyr, gan gynnwys 53 o Brydain, cyn iddi blymio i'r ddaear yn fuan ar ôl cychwyn y daith.

Dim ond un person oedd ar fwrdd yr awyren – sef dyn 40 oed o Brydain - wnaeth oroesi wedi i'r awyren daro coleg meddygol yn Ahmedabad.

Mae’r awdurdodau yn India wedi bod yn ceisio deall faint o bobl gafodd eu lladd ar y tir yn y digwyddiad.

Llai na 60 eiliad ar ôl gadael Maes Awyr Rhyngwladol Sardar Vallabhbhai Patel Ahmedabad, fe ddechreuodd awyren Air India blymio yn ôl i’r ddaear.

Tarodd yr awyren adeilad oedd yn llety i feddygon yng Ngholeg Meddygol ac Ysbyty Sifil BJ. 

Mae Llywydd Cymdeithas y Meddygon Iau yn y coleg Dr Dhaval Gameti, bellach wedi dweud mai 270 o gyrff sydd yn cael eu cadw yn yr ysbyty.

Ymhlith y rheiny sydd wedi marw, y mae 241 o deithwyr a gweithwyr oedd ar fwrdd yr awyren ar gyfer hediad AI171. 

Roedd 169 o bobl o India, 53 o Brydain, saith o Bortiwgal ac un o Ganada ar yr awyren.

Ymhlith y rhai a fu farw oedd dyn busnes o’r enw Akeel Nanabawa, o Gasnewydd, yn ogystal â’i wraig Hannaa Vorajee a’u merch.

Mae digwyddiadau wedi bod yn cael eu cynnal ledled India a’r DU er cof am y rhai a fuodd farw.

Mae swyddfa arbenigol yn India yn arwain ymchwiliad ynglŷn ag achos y damwain, a hynny gyda chymorth timau o’r DU ac America. 

Ddydd Gwener, cafwyd hyd i focs du, sef math o draciwr, ar safle’r gwrthdrawiad. 

Dywedodd gweinidog hedfan sifil India, Ram Mohan Naidu Kinjarapu, y byddai hynny’n helpu’n “sylweddol” gyda’r ymchwiliad.

Yn ôl gwefan Flightradar24, roedd awyren Air India – sef y Boeing Dreamliner 787-8 – yn 11 oed ac roedd yr awyren wedi hedfan o Ahmedabad i Gatwick 25 o weithiau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Llun: Pobl yn mynychu gwylnos yng nghanolfan Siddhashram Shakti yn Llundain ddydd Sadwrn er cof am y bobl a fuodd farw yn y damwain (James Manning/PA Wire)
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.