Ioan Gruffudd a'i wraig yn disgwyl eu babi cyntaf gyda'i gilydd
Mae’r Cymro a’r seren Hollywood Ioan Gruffudd a'i wraig wedi cyhoeddi eu bod yn disgwyl eu babi cyntaf gyda'i gilydd.
Mewn neges ar Instagram fore Sul, fe gyhoeddodd Gruffudd a’i wraig, yr actores o Awstralia, Bianca Wallace, llun yn dathlu eu newyddion.
Mae’r llun du a gwyn yn dangos yr actor o Aberdâr yn rhoi cusan i fol beichiog ei wraig, gyda neges yn adrodd: “Babi Gruffudd yn popio mas i ddweud helo!”
Daw’r newyddion cyffrous ychydig o fisoedd wedi i’r cwpwl gyhoeddi eu bod nhw wedi priodi.
Mis Ebrill, fe gyhoeddodd fideo ar y cyfryngau cymdeithasol o’r ddau ohonynt mewn seremoni breifat gan ddweud:“Mr & Mrs Gruffudd. Priodi nawr, priodas yn hwyrach”.
Fe ddechreuodd Ioan Gruffudd ei yrfa actio ar y gyfres opera sebon Pobol y Cwm cyn serennu ar gyfresi teledu Hornblower a Liar ac mewn ffilmiau megis Fantastic Four a Titanic.
Mae’r ddau wedi bod mewn perthynas ers iddo wahanu o’i wraig Alice Evans dair blynedd yn ôl.
Mae ganddo ddau o blant o’i briodas gyntaf.
Yn 2022 fe wnaeth Bianca Wallace, 32 oed, ddatgelu ei bod wedi bod yn byw gyda’r cyflwr sglerosis ymledol (MS) ers iddi fod yn 25 oed.
Mae’r ddau wedi ymddangos mewn drama ‘A Ray of Sunshine’ am fenyw sy’n delio gyda diagnosis o MS.
Lluniau: @ioangruffudd & @iambiancawallace/Instagram