'Sobor o beth': Llai a llai o fanciau yn bryder
'Sobor o beth': Llai a llai o fanciau yn bryder
Y stryd fawr yn stryd o fanciau.
Yng Nghastell-nedd, bydd un yn llai yma gyda changen NatWest i gau.
"Dw i'm yn gweld yn dda, y gŵr sy'n neud y bancio i gyd.
"Bydden i fel arfer yn mynd i'r banc i godi arian.
"Sa i'n gwybod beth wi'n mynd i wneud."
"Mae M&S wedi cau yma, mae'r farchnad yn hanner llawn. Mae'r dref yn dod i stop."
"Mae e ddim rili'n neud gwahaniaeth. Fi'n neud popeth ar-lein nawr.
"Mae pobl hen yn relyio ar bancio lot mwy, s'mo nhw'n deall ar-lein."
"Where are we gonna go? Where are we gonna get change and banking? "There's only a couple left now."
Bydd 55 cangen yn cau ar draws y DU gyda naw yma yng Nghymru.
Na'th Barclays gau fan hyn llynedd.
Fi 'di siarad a Santander bore 'ma ac maen nhw'n gobeithio gosod mwy o beiriannau yn eu siopau yr haf hwn ymlaen.
Mae'r ffordd ni'n bancio yn newid. Nifer yn troi'n ddigidol.
Gyda'r gangen yma o NatWest yn cau fan hyn ac ar draws Cymru mae nifer o bobl a busnesau yn poeni.
Fel yma yn Llangefni, dyma'r 4ydd banc Natwest i gau ar Ynys Mon ar ôl Caergybi, Porthaethwy ac Amlwch.
Taith i Fangor fydd hi o Fedi ymlaen.
"Bydd o'n dipyn o golled, yn enwedig i'r rhai sy'n dibynnu arno fo."
"Trist iawn dw i'n meddwl yn enwedig i hen bobl sydd ddim on-line. Mae gen ti fwy i weud."
"Dw i'n cofio pan roedd 'na ddau NatWest yma.
"Roedd 'na un bach rownd gongol yn fan 'cw."
"Diawledig i fod yn onest."
I fusnesau, mae'n rhwystredig.
"Mae'n sobor o beth i fusnesau. Wrth bod y pontydd yma, mae'n cymryd diwrnod bron i fynd i Fangor.
"Does gynnoch chi mond y Post rwan ac mae'n cymryd tri diwrnod i roi pres yn yr account."
Nid NatWest yw'r unig fanc, gyda'r nifer o fanciau rhwng 2012 a 2022 yn syrthio o bron i 700 i ryw 430 yng Nghymru.
"Fi'n meddwl bod pobl yn gweld hyn fel rhyw fath o frad.
"Dylai'r banciau sy'n gwneud gymaint o elw wasanaethu'r cymunedau sydd wedi bod yn gwsmeriaid ffyddlon iddyn nhw.
"Mae 'na bobl sydd moyn trafod arian parod, mae'n bwysig iddyn nhw."
Yn ôl NatWest mae 80% o gwsmeriaid bellach yn bancio ar-lein ac wrth gau canghennau maen nhw'n drych ar bob achos unigol a bod symud tuag at fancio digidol yn cael ei wneud gyda thrugaredd gan edrych ar helpu'r rheiny sydd yn hyn a mwy bregus.
Mewn oes ddigidol, mae gwasanaethau yn addasu o hyd a bancio ar y stryd fawr ddim gwahanol yn hynny o beth.