
'Tydi gwisgo sgert mini ddim yn wahoddiad i ddynion fy nghyffwrdd'
Mae un o wynebau cyfres 'STRIP' ar S4C wedi dweud fod ffordd i fynd wrth addysgu rhai dynion sy'n mynychu clybiau nos, sut mae ymddwyn yn briodol tuag at fenywod.
Yn siarad fel gwestai ar raglen 'Ar Led', ar y sianel, fe ddywedodd Rhiannon, sy'n trefnu 'nosweithiau strip' yng ngogledd Cymru, ei bod yn dioddef "ymddygiad amhriodol gan ddynion yn aml."
"Dwi yn experienceio sexual harassment a sexual assault lot o weithiau fel rhan fwya o ferched.
"Dwi wedi cael fy assaultio mewn clwb sydd wedi rili effeithio gwaith fi ag oni ddim isho mynd nôl i gwaith fi."
Mae 'Ar Led' yn gyfres newydd ar y sianel sydd yn trafod materion yn ymwneud a 'rhyw a chydsynio' gydag arbenigwyr yn cynnig cyngor ar ystod eang o bynciau cysylltiedig. Roedd y rhaglen benodol yma yn trafod aflonyddu rhywiol.

Eglurodd Rhiannon ei bod wedi cael sawl person yn dweud wrthi eu bod wedi dioddef yr un profiadau "ddim ond oherwydd y ffordd maen nhw wedi dewis gwisgo."
"Dwi wedi clywed hyn gan lot o ferched.
"I fi mae'n bwysig fod merch yn gallu expressio ei hun drwy'r ffordd mae hi'n dewis gwisgo.
"Os mae merch yn dewis gwisgo lo-cut top, mini skirt, beth bynnag, dydi o ddim yn gwahoddiad i ddynion eu cyffwrdd."
"Ro'n i'n gwisgo sgert a top, dim byd rhy revealing a roedd dyn wedi rhoi llaw fo ar pen-ôl ac oedd y security guard wedi dweud i fi "what do you expect yn gwisgo fel 'na."
Mae'r gyfres yn cael ei chyflwyno gan Carwyn Blaney a Miriam Issac, gyda'r meddyg ifanc Ffraid Gwenllian wrth law i gynnig barn a chyngor i'r gwylwyr.