Tywydd poethaf y flwyddyn ar y ffordd i Gymru?
Mae posibilrwydd y gallai Cymru brofi tywydd poethaf y flwyddyn dros y dyddiau nesaf yn ôl y Swyddfa Dywydd.
Erbyn dydd Gwener, mae disgwyl i rannau gogleddol a gorllewinol o'r wlad brofi'r gwres, gydag Aberystwyth ymysg y lleoliadau posib a fydd yn profi tymheredd o 28C neu uwch.
Mae disgwyl i orllewin Cymru weld tymereddau o rhwng 24C a 28C erbyn dydd Gwener.
Ar gyfer dwyrain Cymru, mae disgwyl i'r tymereddau uchaf gyrraedd rhwng 28C a 31C ddydd Sadwrn.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae posibilrwydd mai nos Sadwrn fydd "noson drofannol" gyntaf y flwyddyn, sef pan nad yw tymereddau dros nos yn gostwng yn is na 20C.
Mae'r tymereddau cynyddol yn sgil ardal o bwysedd uchel sy'n datblygu.
Fe fydd hyn yn arwain at wyntoedd yn newid i gyfeiriad mwy de-ddwyreiniol a dod â thywydd poeth o rannau eraill o Orllewin Ewrop.
Gall rhannau o Ffrainc a Sbaen weld tymereddau yn agos at 40C dros y dyddiau nesaf.
Er mwyn i don o wres poeth (heatwave) gael ei chyhoeddi gan y Swyddfa Dywydd, mae angen cyrraedd tymheredd trothwy am dri diwrnod yn olynol.
Mae'r trothwy hwn yn amrywio o 25C ar draws y gogledd a'r gorllewin o'r DU, a 28C mewn rhannau o ddwyrain Lloegr.