Newyddion S4C

Un o daflegrau Iran yn taro ysbyty wrth i Israel bwyso ar Trump i ymyrryd

Ysbyty Saroka

Mae un o daflegrau Iran wedi taro ysbyty yn ne Israel gan achosi “difrod helaeth” meddai llefarydd.

Dywedodd cyfryngau gwladol Iran mai safle milwrol drws nesaf i ysbyty Soroka yn Beersheba oedd y targed yn hytrach na’r ysbyty ei hun.

Daw wrth i Israel roi pwysau ar yr Arlywydd Trump i ymyrryd yn y gwrthdaro rhwng Israel ac Iran.

Fe gafodd mwy na 30 o bobl eu hanafu yn yr ysbyty ac roedd mwy na 65 o bobl wedi eu hanafu ledled y wlad o ganlyniad i ymosodiadau diweddaraf Iran meddai'r gwasanaethau brys yn Israel.

Dywedodd arlywydd Israel, Isaac Herzog bod Iran wedi “targedu” babanod, mamau a doctoriaid.

"Mewn eiliadau fel hyn, cawn ein hatgoffa o'r hyn sydd mewn gwirionedd yn y fantol, a'r gwerthoedd yr ydym yn eu hamddiffyn,” meddai.

Fe awgrymodd Prif Weinidog Israel Benjamin Netanyahu hefyd bod yr ymosodiad yn un bwriadol.

"Y bore yma, fe lansiodd gormeswyr terfysgol Iran daflegrau at Ysbyty Soroka yn Beersheba ac at bobl gyffredin yng nghanol y wlad.

"Bydd gormeswyr Tehran yn talu pris llawn am hyn."

Yn y cyfamser mae Israel yn dweud eu bod nhw wedi targedu rhagor o safleoedd sy’n gysylltiedig â rhaglen niwclear Iran gan gynnwys adweithydd dŵr trwm "anweithredol" yn Arak a safle yn Natanz.

‘Efallai’

Daw'r ymosodiadau wrth i Donald Trump gymeradwyo cynlluniau a fyddai yn weithredol pe bai UDA yn penderfynu ymosod ar Iran.

Ond dywedodd nad oedd wedi gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch a ddylid ymosod ar y wlad ai peidio, yn ôl CBS.

Yn gynharach, dywedodd Trump "efallai y byddaf, efallai na fyddaf" pan ofynnwyd iddo a fyddai'r Unol Daleithiau yn ymuno ag ymosodiadau Israel ar Iran.

Mae arweinydd goruchaf Iran, Ali Khamenei, wedi rhybuddio am "niwed anadferadwy" pe bai'r Unol Daleithiau yn ymyrryd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.