Newyddion S4C

Carcharu dyn o ardal Caernarfon am dreisio merch yn ei harddegau

Kyle Martin John Parry

Mae dyn 29 oed o Wynedd wedi ei garcharu am wyth mlynedd a naw mis wedi iddo dreisio merch yn ei harddegau.

Roedd Kyle Martin John Parry, oedd yn arfer byw yn ardal Caernarfon, yn wynebu cyhuddiadau yn ymwneud â ymosod yn rhywiol ar blentyn yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mawrth 10 Mehefin.

Roedd y dioddefwr yn 15 oed pan ddigwyddodd y troseddau yn ôl yn 2015.

Cafodd Parry, a oedd wedi cael euogfarnau blaenorol am ymosod yn rhywiol ar fachgen pump oed yn 2017, ei ddedfrydu i wyth mlynedd a naw mis yn y carchar am y troseddau.

Dywedodd y ditectif gwnstabl Dominique Swift: “Hoffwn ganmol dewrder y dioddefwr yn yr achos hwn am ymddiried ynom ni a siarad â ni.”

Dywedodd fod y dioddefwr wedi dangos “dewrder aruthrol” yn y llys, a’i bod wedi dewis i ddarllen ei Datganiad Personol Dioddefwr yn uniongyrchol i’r dyn ymosododd arni.

“Gadewch i hyn fod yn neges i eraill a allai fod yn dioddef yn dawel. Byddwn yn gwrando.”

“Byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i ddod â’r rhai sy’n achosi niwed rhywiol gerbron cyfiawnder.”

“Rydym yma i’ch cefnogi.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.