Y Canghellor yn cyhoeddi £118m i gadw tomenni glo yn saff yng Nghymru
Mae’r Canghellor Rachel Reeves wedi cadarnhau y bydd £118m yn cael ei fuddsoddi i ddiogelu tomenni glo yng Nghymru.
Fe wnaeth y cyhoeddiad fel rhan o’r adolygiad gwariant ddydd Mercher.
Cyhoeddodd Rachel Reeves £52 biliwn i’r Alban, £20 biliwn i Ogledd Iwerddon, a £23 biliwn i Gymru, wrth iddi addo’r “setliadau mwyaf mewn termau real ers cyflwyno datganoli”.
Yn gynharach yn ei haraith, cadarnhaodd y Canghellor hefyd grant o £500 miliwn i Tata Steel ar gyfer ei safle ym Mhort Talbot.
Dywedodd Rachel Reeves ei bod hi wedi penderfynu buddsoddi arian ychwanegol yn y tomenni glo “ar ôl clywed barn nifer o gydweithwyr o Lafur Cymru”.
“Mae gyda ni rwymedigaeth i’n cymunedau diwydiannol,” meddai.
“Rydw i’n darparu setliad ar draws sawl blwyddyn o £118m i gadw tipiau glo yn saff yng Nghymru.”
Yng Nghymru mae dros 2,500 o domenni glo segur yn ôl data Llywodraeth Cymru.
Mae’r mwyafrif yn annhebygol iawn o achosi niwed i’r cyhoedd, meddai Llywodraeth Cymru, ond mae 85 wedi eu rhoi yn y categori fwyaf difrifol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn y gorffennol bod angen £500 i £600 miliwn dros y 10 i 15 mlynedd nesaf er mwyn diogelu rhag tirlithriadau pellach yn y dyfodol.
Ond mae anghytuno wedi bod ynglŷn â phwy ddylai fod yn gyfrifol am y gwaith, gan fod yr amgylchedd yn bwnc datganoledig ond bod y tomenni yn bodoli ers cyn datganoli.
Fis Mawrth, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi y byddai £33 miliwn yn cael i glustnodi i wella diogelwch tomenni glo, fel rhan o Gynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo.
Ym mis Tachwedd y llynedd fe wnaeth tomen lo yng Nghwmtyleri lithro wedi tywydd stormus. Roedd yn rhaid i bobl adael eu cartrefi.
Fe wnaeth glaw trwm achosi tirlithriad mewn tomen glo segur ym Mhendyrys, yng Nghwm Rhondda yn 2020 hefyd.
Yn gynharach ddydd Mercher, clywodd pwyllgor seneddol fod y swm o arian cyhoeddus sydd ar gael i wneud tomenni glo Cymru yn ddiogel "yn crafu'r wyneb yn unig".
Clywodd y Pwyllgor Dethol Materion Cymreig fod "anghydraddoldeb rhwng maint yr her a'r arian sydd ar gael" i adfer tomenni glo risg uchel.
Dywedodd Nicola Pearce o gyngor Castell-nedd Port Talbot na fydd y Bil Tommenni Mwyngloddiau a Chwareli Segur (Cymru) "yn effeithiol nes bod digon o arian cyhoeddus ar waith i alluogi monitro parhaus neu fonitro rheolaidd yn ogystal â gallu cael mynediad at y cronfeydd hynny i ymgymryd â gwaith adfer lle mae angen".