Newyddion S4C

Lansio deiseb yn sgil toriadau i newyddion yn yr iaith Lydaweg

Fflag Llydaw

Mae deiseb wedi cael ei lansio yn sgil toriadau posib i fwletinau newyddion yn yr iaith Lydaweg.

Ar hyn o bryd, mae 16 munud o'r amserlen ddyddiol yn cael ei rhoi i fwletinau yn Llydaweg ar radio ICI Breizh Izel, sef gorsaf Radio France ar gyfer gorllewin Llydaw. 

O dan gynlluniau newydd yn yr orsaf, dim ond un bwletin dau funud o hyd fyddai'n cael ei ddarlledu yn yr iaith Lydaweg, a hynny am 06:30. 

Mae'r ddeiseb hefyd yn nodi y byddai'r amser sy'n cael ei roi i newyddion yn Llydaweg bob dydd yn cael ei chwarteru, o 16 munud i bedwar munud. 

Byddai llai o newyddion yn yr iaith yn cael ei ddarlledu dros y penwythnos hefyd, gyda'r slot bore yn diflannu.

Yn ôl y ddeiseb, mae'r cynlluniau "digynsail" yn "tanseilio enaid" yr orsaf.

Mae'n mynd yn erbyn amcanion a gafodd eu gosod yn ddiweddar gan y Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Ieithoedd a Diwylliannau Rhanbarthol medd y ddeiseb.

Dywedodd Gweinidog Diwylliant Ffrainc, Rachida Dati ym mis Mai bod yna "angen sylfaenol i hyrwyddo ieithoedd rhanbarthol: datblygu technoleg ddigidol i'w diogelu, a phresenoldeb gwell i'r ieithoedd hyn yn rhaglenni darlledwyr cyhoeddus."

Mae'r gostyngiad yn yr amser darlledu yn cael ei gyfiawnhau gan reolwyr yr orsaf, a hynny yn sgil "gostyngiad yn nifer y siaradwyr".

Yn ôl amcangyfrifon a gomisiynwyd gan ranbarth Llydaw ac a gafodd ei gyhoeddi fis Ionawr diwethaf, mae nifer y siaradwyr wedi haneru mewn chwe blynedd, i tua 100,000 o siaradwyr heddiw. 

Mae'r ddeiseb yn dweud eu bod yn benderfynol o esblygu'r ffordd y mae newyddion yn cael ei ddarlledu yn yr iaith ac i ddatblygu "fformatau digidol newydd".

Ond mae'n ychwanegu "na ddylid cefnu ar y radio ac amddifadu ein gwrandawyr, yr 11% o bobl yng ngorllewin Llydaw sy'n siarad yr iaith a'r rhai sydd am ei chlywed, gan gynnwys presenoldeb yr iaith Llydaweg yn ystod oriau brig."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.