Newyddion S4C

Marwolaeth Tonysguboriau: Cyhuddo wythfed person mewn cysylltiad â llofruddiaeth

Joanne Penney
Joanne Penney

Mae wythfed person wedi cael ei gyhuddo mewn cysylltiad â llofruddiaeth dynes 40 oed yn y Rhondda.

Bu farw Joanne Penney yn Nhonysguboriau ar 9 Mawrth ar ôl cael ei saethu.

Mae Molly Cooper, 33 oed wedi ei chyhuddo o gymryd rhan yng ngweithgareddau grŵp troseddol a chael gafael ar fwledi ar gyfer arf heb dystysgrif.

Fe ymddangosodd yn Llys Ynadon Merthyr ar 9 Mehefin.

Ni chafodd unrhyw ble ei gynnig.

Bydd Ms Cooper yn parhau yn y ddalfa ac yn ymddangos yn y llys ym mis Hydref gyda'r saith person arall sydd wedi eu harestio mewn cysylltiad â marwolaeth Joanne Penney.

Cyn hynny byth y saith person arall yn ymddangos yn y llys ar 7 Gorffennaf ar gyfer gwrandawiad cyn dechrau’r achos.

Mae dyddiad ar gyfer yr achos llawn wedi’i bennu ar gyfer 20 Hydref.
 

Mae pump o bobl wedi’u cyhuddo o lofruddiaeth ac un person wedi ei gyhuddo o gnorthwyo troseddwr.

Mae Marcus Huntley, 20, o Laneirwg, Caerdydd; Melissa Quailey-Dashper, 39, o Gaerlŷr; Joshua Gordon, 27, o Oadby, Sir Gaerlŷr; a Tony Porter, 68, o Braunstone Town, Sir Gaerlŷr, i gyd wedi'u cyhuddo'n flaenorol o lofruddiaeth.

Mae Mr Porter hefyd wedi’i gyhuddo o gymryd rhan yng ngweithgareddau grŵp troseddol.

Mae Kristina Ginova, 21, o Oadby, Sir Gaerlŷr, wedi’i chyhuddo o gynorthwyo troseddwr.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.