Newyddion S4C

Dwy ddynes wedi marw ar ôl 'cael eu darganfod mewn dŵr' ger yr Wyddfa

Dwy ddynes wedi marw ar ôl 'cael eu darganfod mewn dŵr' ger yr Wyddfa

Mae dwy ddynes wedi marw ar ôl cael eu darganfod mewn dŵr yn Nant Gwynant ger yr Wyddfa nos Fercher.

Fe gafodd yr heddlu eu galw am 21:31 yn dilyn adroddiad bod un ddynes wedi cael ei thynnu allan o’r dŵr, a bod dynes arall yn y dŵr yn y pyllau ger Llwybr Watkin.

Cafodd Tîm Achub Mynydd Llanberis eu galw i’r ardal, ynghyd â Heddlu Gogledd Cymru, yr Ambiwlans Awyr ac hofrennydd achub Gwylwyr y Glannau.

Fe gafodd yr ail ddynes ei thynnu allan o’r dŵr, ond er gwaethaf ymdrechion pawb, bu farw'r ddwy yn y fan a’r lle.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Andy Gibson o Heddlu Gogledd Cymru: “Mae ein meddyliau a’n cydymdeimladau dwysaf gyda theuluoedd a ffrindiau’r ddwy.

“Mae ymchwiliad ar y gweill er mwyn darganfod yr hyn a ddigwyddodd. 

"Mae ymchwiliad yn parhau i ddarganfod yr hyn a ddigwyddodd. Rydym yn apelio am unrhyw un a oedd yn cerdded yn ardal Llwybr Watkin rhwng 18:00 a 21:00 neithiwr i gysylltu â ni drwy'r wefan neu drwy ffonio 101 gan nodi’r rhif cyfeirnod 25000480868.”

Dywedodd Cadeirydd Tîm Achub Mynydd Llanberis, Jurgen Dissmann: “Ar ran Tîm Achub Mynydd Llanberis, estynnwn ein cydymdeimladau dwysaf i deuluoedd a chyfeillion y ddwy fenyw a gollodd eu bywydau.
 
“Roedd hon yn alwad gymhleth ac anodd i’r tîm a hoffem ddiolch i’n cydweithwyr o’r gwasanaethau brys a Thîm Achub Mynydd Aberglaslyn am eu cefnogaeth barhaus a’u cymorth yn ystod yr alwad hon.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.