Newyddion S4C

Mark Lewis Jones wedi'i enwi'n Llywydd ar Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam

Mark Lewis Jones - Credit - Cat Arwel[48] copy.jpeg

Mae’r actor Mark Lewis Jones wedi’i enwi fel Llywydd yr Ŵyl Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2026.

Yn wreiddiol o bentref Rhosllannerchrugog, fe wnaeth yr actor dderbyn y rôl yn dilyn gwahoddiad gan y pwyllgor gwaith lleol, ac fe fydd yn annerch y gynulleidfa o lwyfan y Pafiliwn ar Faes y Brifwyl yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Wrth sôn am y gwahoddiad gan yr Eisteddfod, dywedodd, “Ro’n i mor falch i gael y gwahoddiad i fod yn Llywydd. 

“Doeddwn i ddim yn ei ddisgwyl o gwbl ac rwy’n hollol ‘chuffed’ ac yn edrych ymlaen yn fawr at gael bod yn yr Eisteddfod. 

“Mae gen i deulu yn y Rhos o hyd ac rwy’n mynd adref i’r pentref yn rheolaidd.”

Bydd anerchiad Llywydd yr Ŵyl yn cael ei gynnal ar lwyfan y Pafiliwn am 12:50, ddydd Sadwrn 2 Awst. Bydd Mark Lewis Jones hefyd yn cael ei anrhydeddu gan Orsedd Cymru ddydd Gwener 8 Awst.

Star Wars

Mae wyneb Mark Lewis Jones yn un adnabyddus fel actor sydd wedi serennu mewn cyfresi mawr ar deledu yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

Wedi ei eni a’i fagu yn Rhos, mae’n dweud bod y gefnogaeth a gafodd gan ei gymuned leol fod yn greiddiol iddo a’i yrfa dros y 40 mlynedd ddiwethaf.

Ymunodd â’r theatr ieuenctid yn Theatr Clwyd cyn mynd i astudio drama yn y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd.

Yna, bu’n gweithio yn Theatr Clwyd cyn symud i Lundain am 27 mlynedd, a symud wedyn i Gaerdydd a phriodi ei wraig, Gwenno.

Mae wedi ymddangos ar nifer fawr o sioeau teledu eiconig y cyfnod diweddar, gan gynnwys ‘The Crown’, ‘Outlander’, ‘Game of Thrones’, ‘Chernobyl’, ‘Keeping Faith’, ‘Man Up’ a ‘Baby Reindeer’.

Ymddangosodd hefyd mewn ffilmiau sy’n enwog dros y byd, gan gynnwys ‘Star Wars: The Last Jedi’ a’r ffilm ddiweddar o Ganada, ‘Sweetland’.

Mae hefyd wedi actio mewn llu o gyfresi drama ar S4C gan gynnwys ‘Dal y Mellt’, ‘Con Passionate’, ‘Calon Gaeth’ ac ‘Y Pris’.

Cynhelir y Brifwyl ar gyrion dinas Wrecsam rhwng 2-9 Awst eleni.

Llun: Cat Arwel

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.