Marks & Spencer wedi ail agor eu gwefan wedi ymosodiad seiber
Mae Marks & Spencer wedi ail agor eu gwefan i gwsmeriaid ar ôl cael eu gorfodi i beidio cymryd mwy o archebion ym mis Ebrill.
Fe ddigwyddodd hyn yn sgil ymosodiad seiber.
Mae’r manwerthwr yn dweud bod siopwyr nawr yn gallu prynu ystod o gynnyrch ffasiwn a chynnyrch sy’n gallu cael eu dosbarthu i gartrefi cwsmeriaid yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.
Mewn datganiad ar eu cyfrif cymdeithasol mae M&S yn dweud y bydd “mwy o gynnyrch ffasiwn, i’r cartref a harddwch yn cael eu hychwanegu bob dydd”.
Maent hefyd yn dweud y byddant yn ail ddechrau dosbarthu i gartrefi yng Ngogledd Iwerddon yn yr “wythnosau nesaf”.
Bydd y system clicio a chasglu yn ail gychwyn hefyd cyn bo hir meddai’r cwmni.
Fe achosodd yr ymosodiad seiber broblemau mawr i M&S.
Roedd yn rhaid oedi archebion ar eu gwefan yn ystod penwythnos y Pasg ac roedd rhai silffoedd yn wag ar ôl iddynt gael eu targedau gan hacwyr.
Cafodd manylion personol cwsmeriaid eu cymryd gan yr hacwyr oedd yn cynnwys enwau, cyfeiriadau e-bost a dyddiadau geni.
Mae’r cwmni wedi dweud mai “camgymeriad dynol” oedd wedi achosi’r ymosodiad seiber.
Yr amcangyfrif yw bod M&S yn mynd i golli tua £300 miliwn o elw eleni o achos y digwyddiad. Ond maent yn dweud y byddant yn gobeithio lleihau'r gost trwy yswiriant a rheoli costau.