Newyddion S4C

'Anrhydedd': Côr meibion yn perfformio yn Stadiwm Principality 16 mis ar ôl ffurfio

Cor Meibion Clydach

Fe fydd côr meibion o Abertawe yn perfformio cyn gêm rygbi Cymru yn Stadiwm Principality y tymor nesaf – a hynny 16 mis yn unig ar ôl iddyn nhw ffurfio. 

Fe fydd Côr Meibion Clydach yn perfformio o flaen torf o hyd at 74,000 o bobl cyn gêm rygbi Cymru yn erbyn Seland Newydd yn y brifddinas ar 22 Tachwedd.

Hyd yn hyn, mae’r côr wedi perfformio o flaen cynulleidfaoedd o tua 400 o bobl. 

Er eu bod yn teimlo “ychydig o nerfusrwydd,” mae aelodau’r côr yn dweud bod hi'n “anrhydedd enfawr” i gael perfformio o flaen eu cenedl. 

Mae’r cynghorydd Matthew Bailey, sy’n cynrychioli ardal Clydach yn Abertawe, yn aelod o’r côr. Roedd hefyd yn gyfrifol am ail sefydlu côr meibion yn ei ardal leol.  

“Mae Cymru yn erbyn Seland Newydd yn gêm enfawr,” meddai.

"Mae'n debyg na fyddwn ni byth yn cael y cyfle hwn eto. Mae'n rhaid i chi berfformio.

“Byddai’n help pe bai ni’n cael yfed cwpl o ddiodydd o flaen llaw!” ychwanegodd. 

Image
Matthew Bailey
Y cynghorydd Matthew Bailey

'Rili edrych ymlaen'

Bydd Côr Meibion Clydach yn ymuno â dau gôr arall a fydd yn perfformio ar y cyd yn y stadiwm. 

Y gred yw y byddan nhw’n perfformio tua wyth o ganeuon cyn symud ymlaen i’r anthem genedlaethol. 

Mae Anthony Brunton hefyd yn aelod o’r côr. Mae'n credu y bydd yn llawn emosiwn ar y diwrnod mawr. 

“Dwi’n rili edrych ymlaen, mae pawb arall yn y côr yn hefyd,” meddai. 

Mae Mr Brunton, 58 oed, yn gyn chwaraewr rygbi gyda chlwb rygbi Vardre ac mae’n dweud y bydd y gêm yn erbyn Seland Newydd yn heriol. 

Dyw Seland Newydd heb golli gêm yn erbyn Cymru ers 1953. 

Y Cyfarwyddwr Cerdd, Gareth Sims a’i wraig, Julie sy’n arwain Côr Meibion Clydach sydd a 38 o aelodau.

Mae’r côr fel arfer yn ymarfer ar ddyddiau Iau ond fe fyddan nhw bellach yn ymarfer ar ddyddiau Sul hefyd er mwyn paratoi ar gyfer y perfformiad yn Stadiwm Prinicipality. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.