Dolgellau: Gyrrwr beic modur wedi dioddef anafiadau difrifol
10/06/2025
Mae gyrrwr beic modur wedi treulio dros fis yn Ysbyty Gwynedd gydag anafiadau difrifol ar ôl gwrthdrawiad ger Dolgellau.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw’n apelio am ragor o wybodaeth am yr hyn ddigwyddodd yn y gwrthdrawiad ar yr A493 ar Ŵyl y Banc Calan Mai.
Fe wnaeth beic modur Suzuki glas wrthdaro â char VW Passat du yn Llynpenmaen toc cyn hanner dydd ar 5 Mai.
Dylai unrhyw un a oedd yn teithio ar hyd y ffordd ac a welodd y gwrthdrawiad, neu sydd â fideo dashfwrdd, gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy’r wefan gan ddyfynnu cyfeirnod 25000371349.