Newyddion S4C

Prosiect i adnewyddu cartrefi gwag yn derbyn bron i hanner miliwn mewn cyllid

ITV Cymru
itv

Mae prosiect sy’n bwriadu prynu cartrefi gwag yn Rhondda Cynon Taf a’u hadnewyddu wedi derbyn cymorth o £475,000.

Mae’r cyllid, sy’n dod o Gronfa Gymunedol Pen Y Cymoedd o dan faner sefydliad ddim-er-elw Community Impact Initiative, yn ceisio mynd i’r afael â’r nifer o gartrefi gwag yng Nghymru.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol, mae mwy na 120,000 o gartrefi heb eu defnyddio yng Nghymru.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dweud bod mwy na 2700 o gartrefi gwag yn y bwrdeistref sirol yn unig.

I gwblhau’r gwaith, fe fydd gwirfoddolwyr a phobl leol yn allweddol i’r prosiect, meddai Jamie Smith, llefarydd ar rhan Cronfa Cymunedol Pen Y Cymoedd.

Image
ITV

“Mae hwn yn enghraifft ragorol o ddod â phobl ifanc sydd ar yr ymylon i ennill sgiliau a phrofiad," meddai.

“Mae'n ymwneud â adnewyddu cartrefi a bywydau.”

Image
itv

Ac er ei fod yn cefnogi pobl ifanc, mae'r rheiny sy'n trefnu'r prosiect yn dweud ei fod ar agor i bobl o bob oedran i wirfoddoli. Y nod yw rhoi sgiliau iddyn nhw hefyd.

Un o'r bobl ifanc sy'n elwa o'r prosiect yw Kyian O’Callaghan sy'n 17 oed. Mae'n credu y bydd gwirfoddoli yn gymorth i gychwyn ei yrfa yn y diwydiant adeiladu: “Rwyf wedi magu llawer o sgiliau... ac rwy'n falch iawn fy mod wedi dod yma, mae wedi helpu fi llawer.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.