‘Taith anodd’: Gorfod symud i Lundain 'i deimlo’n gyfforddus gyda fy rhywioldeb'
Mae person ifanc o Sir Benfro wedi dweud ei fod yn ‘bechod’ eu bod wedi gorfod symud i Lundain i deimlo’n ‘gyfforddus’ gyda’u rhywioldeb.
Mae Ar Led, cyfres newydd ar Hansh, yn archwilio agweddau gwahanol o iechyd rhywiol ac addysg rhyw.
Yn y bennod gyntaf mae Tom, a ddaw’n wreiddiol o Drefdraeth yn Sir Benfro, yn siarad am eu taith gyda’u hunaniaeth rhyw a rhywedd.
“We’n i wedi dod mas yn hoyw pan oeddwn i’n 14, ag es i Ysgol y Preseli felly...rygbi, Welsh, Waldo Williams, you know! So bod yn hoyw... no,” meddai.
“Felly roedd e’n eithaf anodd; nes i golli lot o ffrindiau a phethau fel ’na”.
Nid oedden nhw wedi teimlo’n gyfforddus yn eu rhywedd a’u rhywioldeb nes iddyn nhw symud i Lundain i fyw:
“Nawr dwi’n byw yn Llundain gyda fy ‘chosen family’ a jest yn rili cyfforddus gyda hunaniaeth fi,” meddai.
'Lot o waith'
Dywedodd Ffraid Gwenllian, meddyg sydd yn rhannu ei chyngor ar y gyfres newydd ac sydd hefyd yn gyfrifol am ‘Secs’ - cyfrif addysg rhyw iaith Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol - ei fod yn “rili horrible” fod Tom wedi cael y fath brofiad.
“A bo chdi ‘di colli rhan arall o dy hunaniaeth mewn ffordd, o le ti’n dod, a ddim yn teimlo fatha bo chdi di gallu bod yn chdi dy hun yna,” meddai.
Ychwanegodd fod “dal lot o waith” i’w wneud er mwyn “empowerio pobl i deimlo bo nhw’n gallu ddim jysd dod allan, ond bod nhw’n gallu siarad yn agored am y peth”.
Mae hi hefyd yn credu ei fod yn bwysig fod pobl yn teimlo’n gyfforddus yn siarad am bynciau fel hyn,”a bod pobl yn mynd i ddeall nhw a bo nhw’m yn mynd i gael rhagfarn a pethau fel ‘na pan maen nhw’n dod allan".
Cynrychiolaeth
Aeth Tom ymlaen i ddweud y byddai rhaglenni fel Ar Led wedi bod yn ddefnyddiol iawn pan yn ifanc.
Dywedodd y byddai “representation” wedi bod yn ddefnyddiol ei gael ac y byddai’n hapus iawn o fod wedi gweld mwy o bobl anneuaidd a hoyw ar y teledu a’r cyfryngau pan yn iau.
Ychwanegodd fod pobl fel y gantores Chappell Roan wedi bod yn ysbrydoliaeth.
“Dwi’n ciwar a dwi’n defnyddio they/them, felly’n anneuaidd,” meddai.
“Doedd yr iaith yma ddim yn vocabulary fi’n tyfu lan so dwi’n dal i ddysgu… dysgu pob amser.”
Dywedodd eu bod yn “sensitif iawn” pan ddywedodd eu bod yn anneuaidd am y tro cyntaf, ac yn mynd yn flin os nad oedd y bobl o’u cwmpas yn “cael e’n iawn”.
“O'n i jest yn erupting, a meddwl ‘o rude’, a pethau fel ‘na” meddai.
“Ond nawr, y pobl sydd yn gwybod a sydd yn cael e’n iawn yw’r pobl dwi ishe i gael e’n iawn”.
Wrth drafod profiad Tom, dywedodd Christian Webb, arbenigwr iechyd rhyw a lles gydag elusen Brook, ei fod yn cael ei atgoffa o ddyfyniad o’r ffilm Pride – “I’m home, I’m gay and I’m Welsh”.
“Y ffaith bod y cymeriad ‘na yn y ffilm yn teimlo fod ‘na rhyw gwrthgyferbyniad rhwng bod yn Gymry a hefyd fod yn hoyw.”
Ychwanegodd ei fod yn helpu i gynnal clwb ar gyfer pobl ifanc LHDTQ+.
“Y peth mwyaf torcalonnus weithiau ydi gweld rhywun yn tynnu pethe am eu hunaniaeth nhw ac yn eu rhoi yn ôl mewn i’r bag cyn mynd adra," meddai.
“Mae ‘na dipyn o waith i’w wneud."
Mae Ar Led ar gael i'w wylio ar YouTube Hansh, S4C Clic a BBC iPlayer.