Musk yn honni heb dystiolaeth bod Trump yn ymddangos yn nogfennau Epstein
Musk yn honni heb dystiolaeth bod Trump yn ymddangos yn nogfennau Epstein
Mae'r biliwnydd Elon Musk yn honni bod Donald Trump yn ymddangos mewn dogfennau sy'n ymwneud â'r troseddwr rhyw Jeffrey Epstein.
Dyma'r honiad diweddaraf yn y ffrae gyhoeddus rhwng pennaeth Tesla ac arlywydd yr Unol Daleithiau.
Mewn neges ar X, dywedodd y biliwnydd technoleg: "Mae @realDonaldTrump yn dogfennau Epstein. Dyna'r rheswm go iawn nad ydyn nhw wedi cael eu cyhoeddi.
"Marciwch y post hwn ar gyfer y dyfodol. Bydd y gwir yn dod allan."
Ni roddodd unrhyw dystiolaeth i gefnogi'r honiad.
Mae Ysgrifennydd y Wasg yn y Tŷ Gwyn, Karoline Leavitt, wedi wfftio'r sylw.
Mewn datganiad, dywedodd: "Mae hwn yn bennod anffodus gan Elon, sy'n anhapus gyda'r bil mawr, prydferth [mesur treth a gwariant Gweriniaethol] oherwydd nad yw'n cynnwys y polisïau yr oedd eu heisiau.
"Mae'r arlywydd yn canolbwyntio ar basio'r darn hanesyddol hwn o ddeddfwriaeth a gwneud ein gwlad yn wych eto."
Fe wnaeth Epstein ladd ei hun yn y carchar ym mis Awst 2019 wrth aros am achos llys ar gyhuddiadau o fasnachu pobl ifanc dan oed.
Mewn neges arall ddydd Iau, fe wnaeth Musk ymosod ar dariffau Mr Trump, gan ddweud y byddan nhw'n "achosi dirwasgiad yn ail hanner y flwyddyn hon".
Fe wnaeth pennaeth Tesla rannu neges yn galw am uchelgyhuddo Mr Trump a gofyn a oedd hi'n "bryd creu plaid wleidyddol newydd yn America sydd mewn gwirionedd yn cynrychioli'r 80% yn y canol".
Mae'r ffrae eisoes wedi taro cyfranddaliadau Tesla, a gollodd tua $150bn (£111bn) mewn gwerth, gan ostwng 14.3% am y diwrnod.
'Siomi'
Daw hyn ar ôl i'r arlywydd ddweud fod Musk wedi'i "siomi" ar ôl iddo feirniadu ei fil treth yn gyhoeddus.
Dywedodd Mr Trump: "Rwy'n siomedig iawn yn Elon. Rwyf wedi helpu Elon lawer."
Dydd Iau diwethaf fe gyhoeddodd Musk ei fod yn gadael Llywodraeth America ar ôl beirniadu cynlluniau Mr Trump.
Ers mis Ionawr roedd y biliwnydd wedi bod yn arwain adran oedd yn bwriadu torri maint y llywodraeth.
Mewn neges ar wefan X, dywedodd Musk ar y pryd ei fod yn ddiolchgar i’r Arlywydd Trump am roi cyfle iddo arwain adran DOGE.
Ond ychwanegodd ei fod wedi’i "siomi" gan gynlluniau Trump i gynnig toriadau trethi gwerth triliynau o ddoleri a hybu gwariant ar amddiffyn.
Dywedodd pennaeth SpaceX a Tesla mewn cyfweliad â CBS, y byddai'r "bil mawr, prydferth", fel y mae Trump yn ei alw, sy'n mynd drwy'r Gyngres ar hyn o bryd, yn cynyddu diffyg ariannol y wlad.
Dywedodd Musk hefyd ei fod yn credu ei fod yn "tanseilio gwaith" adran DOGE.
Roedd Elon Musk wedi addo torri "o leiaf $2 triliwn" o gyllideb y llywodraeth ffederal, cyn haneru'r targed hwn, ac yna ei leihau i $150bn.
Amcangyfrifir bod DOGE wedi torri swyddi 260,000 o'r gweithlu sifil ffederal o 2.3 miliwn.
Llun: Reuters