Newyddion S4C

Cynlluniau i ailosod Pont Afon Dyfrdwy yn symud yn eu blaen

Pont Afon Dyfrdwy

Mae'r cynllun sydd yn cael ei ffafrio ar gyfer ailosod Pont Afon Dyfrdwy ar yr A494 wedi'i gadarnhau gan Lywodraeth Cymru.

Fe gafodd ymgynghoriad cyhoeddus ei gynnal a oedd yn edrych ar bum opsiwn posibl ar gyfer ailosod Pont Afon Dyfrdwy.

Opsiwn E berfformiodd orau yn yr ymgynghoriad a dyma’r opsiwn mwyaf fforddiadwy.

Mae ganddo hefyd ôl troed amgylcheddol is a dyma'r un mwyaf ymarferol i'w gyflawni, yn ôl y Llywodraeth.

Bydd yn darparu strwythur sengl newydd ynghyd â darpariaeth lawn ar gyfer teithio llesol ar y bont newydd. 

Yn ôl y Llywodraeth, mae angen pont newydd gan fod y gofyn am waith atgyweirio a’r risg o fod angen cau’r bont er mwyn gwaith sylweddol yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn.

Mae disgwyl i’r gwaith adeiladu ddechrau diwedd 2026 i ddechrau 2027.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, fod trwsio ffyrdd “yn flaenoriaeth i’r llywodraeth hon.”

Ychwanegodd eu bod am “symud ymlaen” gyda’r cynlluniau ar gyfer ailosod Pont Dyfrdwy ar yr A494.

“Rwy'n falch heddiw o allu cyhoeddi'r opsiwn a ffefrir, sef yr opsiwn mwyaf cost-effeithiol ac sydd â'r effaith amgylcheddol leiaf.

“Gall y cynlluniau nawr symud ymlaen i'r cam nesaf gyda'r bwriad o gyhoeddi'r gorchmynion drafft yn ddiweddarach eleni.” meddai.

“Ynghyd â'n cynlluniau ar gyfer gwella teithio ar fysiau a threnau yn y rhanbarth, bydd y bont newydd yn cryfhau'r seilwaith trafnidiaeth yng ngogledd Cymru ymhellach."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.