Dinas Dinlle: Ystyried codi tâl parhaol am barcio ger y traeth
Fe allai cynllun dadleuol dros-dro i godi ffi i barcio ger un o draethau Gwynedd gael ei wneud yn barhaol yr wythnos nesa'.
Mae cabinet Cyngor Gwynedd yn ystyried cyflwyno codi tâl am barcio ger traeth Dinas Dinlle yn barhaol, ar ôl cyflwyno ffi am gyfnod prawf o chwech wythnos y llynedd.
Roedd y ffi yn ddadleuol gyda rhai o funesau y pentref yn mynegi pryderon y byddai twristiaid yn mynd i lefydd erail.
Roedd yna hefyd bryderon yn ystod y gwanwyn bod y maes parcio yn llai na'r un blaenorol a hynny'n gorfodi pobl i barcio ar hyd y ffordd.
Bydd y cais i godi tâl am barcio yn barhaol yn cael ei ystyried mewn cyfarfod ar ddydd Mawrth 10 Mehefin.
Roedd y ffi dros dro mewn grym rhwng 16 Awst 2024 a 30 Medi 2024.
Roedd ffioedd yn daladwy drwy beiriant, rhwng 9am-5pm, bob dydd.
Roedd am ddim barcio am hyd at awr; £2 am hyd at ddwy awr; £3 am hyd at dair awr; £6 am hyd at wyth awr a £25 am docyn tymor.
Dangosodd arolwg fod 64% yn credu bod y ffioedd yn "rhy uchel" a bod 30% yn credu bod y ffioedd yn "iawn", yn ôl adroddiad.
Roedd 50% wedi cytuno y dylid "rheoli" cerbydau a oedd yn parcio dros nos yn y maes parcio.
Roedd llu o argymhellion, gan gynnwys cyflwyno mesurau i wahardd arosiadau cerbydau dros nos, cyflwyno tocynnau tymor am "ffi resymol" i bobl leol, cyflwyno ffioedd tymhorol, rhwng Mawrth 1 a Hydref 31, a chlustnodi 15% o incwm ar gyfer cynnal a chadw.
Ar 1 Ebrill 2025, daeth newidiadau i rym a wnaeth arwain at gynnydd yn strwythur ffioedd parcio ar draws y sir gan y cyngor.
Nododd adroddiad fod y strwythur wedi'i argymell yn benodol ar gyfer maes parcio traeth Dinas Dinlle i "gynhyrchu ffynhonnell incwm a chyfrannu at dargedau incwm y gwasanaeth, gan ystyried nodweddion a chyfyngiadau'r safle".
Yn adroddiad y Cabinet, dywedodd prif swyddog cyllid y cyngor: "Gallaf gadarnhau bod targed incwm ar gyfer Maes Parcio Dinas Dinlle ers i'r Cabinet gytuno i gyflwyno ffi, sef £57,930 ar gyfer 2025/26.”