Pryderon wrth i Gyngor Gwynedd ddechrau codi tâl am barcio ger traeth Dinas Dinlle
Mae trigolion ger traeth poblogaidd yng Ngwynedd wedi codi pryderon am drefn newydd o godi tâl ar ymwelwyr i barcio eu ceir ar hyd rhan o'r traeth.
Dros y misoedd diwethaf mae Cyngor Gwynedd wedi gwneud gwaith uwchraddio i ran o faes parcio traeth Dinas Dinlle, ac fe fydd "cynllun rheoli" yn dod i rym fydd yn golygu talu am barcio yno o hyn allan.
Mae'r cyngor yn cydnabod y gallai'r newid fod yn amhoblogaidd i rai.
Bydd ffi am barcio yn cael ei godi ar ymwelwyr fel rhan o gyfnod prawf yn ystod gweddill Awst a mis Medi, a hynny am gyfnod o chwe wythnos, gan hefyd "edrych ar opsiynau i gael gwell rheolaeth ar gerbydau’n parcio dros nos" medd y cyngor.
Fe fydd y cyngor yn casglu'r ymateb yn lleol i'r cyfnod prawf er mwyn addasu a gwella’r cynllun rheoli.
Ond mae ymateb chwyrn wedi dod gan nifer o bobl leol i'r cynllun.
Dyfed Williams oedd cyn-berchennog Bwyty Lleu ger y traeth am bron i ddegawd cyn iddo benderfynu cau drysau’r busnes dair blynedd yn ôl.
Mae’n dweud mai’r gymuned fydd ar ei cholled gyda’r drefn newydd o dalu am barcio.
“Mae pobl leol hefyd yn dallt ac yn ‘nabod yr ardal ac mi aethan nhw i rywle arall, mi aethan nhw i draeth arall – a busnesau bach Dinas Dinlle fydd yn colli allan.
“Mae 'na llai o lefydd i bobl parcio rŵan, pobl yn gorfod talu am parcio, mae’n anodd gweld be’ di’r positives rili de. Doedd e ddim yn rhywbeth oedd pobl yr ardal eisiau."
Yn ôl Mr Williams, ni fydd trigolion lleol nac ymwelwyr yn parhau i ymweld â’r ardal yn sgil y drefn newydd o godi tâl am barcio.
“Sa ti’n mynd i dre’ fel Caernarfon a mynd i barcio, wel mae gen ti lot fawr o wasanaethau ti’n cael am dy arian.
“Ond pan ti’n mynd i Ddinas Ninlle, mae ‘na dri busnes bach a’r traeth ynde. Os ti’n talu £5 am y diwrnod, neu be bynnag ydio, i rai pobl mae hwnna’n lot o bres"
'Pryderus'
Mae Corinna Langi, sydd yn wreiddiol o’r Eidal, wedi dechrau rhentu adeilad ar gyfer ei busnes, Not Only Spaghetti, ger y traeth yn Ninas Dinlle eleni.
A hithau’n dweud fod ei busnes wedi dioddef y tymor hwn yn sgil y tywydd gwlyb dros yr haf, mae’n pryderu am yr effaith y bydd codi ffi am barcio yn ei gael ar ei busnes.
“Rwy’n bryderus, mae gan bobl problemau ariannol yn barod. Mae pawb yn cwyno am gostau nwyddau yn cynyddu… mae cost popeth yn rhy uchel," meddai wrth siarad â Newyddion S4C.
“Dwi ddim yn siŵr pa effaith fydd codi ffi am barcio yn ei gael.
“Maen nhw’n dweud am yr awr gyntaf y bydd parcio am ddim, ac falle ni fydd pobl yn aros yn hir, dwi ddim yn gwybod.
“Mae’n bryderus i fusnesau yn yr ardal,” meddai.
Cyfnod o arbrofi
Yn ystod y cyfnod o arbrofi o dan y drefn newydd, y bwriad yw codi'r ffioedd parcio canlynol rhwng 0900 a 1700 yn ddyddiol:
Hyd at 1 awr : Am ddim
Hyd at 2 awr : £2
Hyd at 3 awr : £3
Hyd at 8 awr : £6
Fe gafodd y gwaith o godi ffi am barcio ar y traeth ei ohirio oherwydd y pandemic Coronafeirws, ac er mwyn gwneud y gwaith gwelliannau medd y cyngor.
Wrth gyhoeddi'r cynllun newydd, dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Adran Economi a Chymuned:
“Dwi’n deall yn llwyr fod newid yn anodd ac na fydd codi ffioedd o’r newydd yn boblogaidd.
"Ond yn anffodus os ydym am barhau i gynnal a chadw ein hadnoddau ar gyfer pawb sy’n eu defnyddio - yn bobl leol ac yn ymwelwyr - mae’n rhaid edrych eto ar ein trefniadau. Dwi’n hyderus bydd pobl yn parhau i fwynhau lleoliad arbennig Dinas Dinlle.
“Rydym wedi cytuno bydd parcio am yr awr gyntaf ac ar ôl 5pm yn parhau i fod am ddim, ac yna bydd y ffi yn codi’n raddol yr hiraf mae rhywun yn parcio eu car.
"Bydd tocyn tymor ar gael hefyd i rheini sy’n ymweld yn aml."