Cofnodi'r diwrnod poethaf erioed ym mis Mai

Tywydd poeth

Dydd Llun yw'r diwrnod poethaf ym mis Mai ar gofnod yn y DU wrth i'r tymheredd gyrraedd 33.5C yn Heathrow.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, roedd y record blaenorol o 32.8C ym mis Mai wedi ei gofnodi yn 1944.

Mae disgwyl y gallai tymheredd uwch byth o 34C gael ei gofnodi yn ne-ddwyrain Lloegr.

Gallai Cymru hefyd osod record newydd ym mis Mai heddiw neu yn ystod y dyddiau nesaf, gyda thymheredd uwch na'r 30.6C a gofnodwyd yng Nghasnewydd ym 1944.

Daw hynny ar ôl i’r DU brofi ei diwrnod poethaf ym mis Mai ers o leiaf 79 mlynedd ddydd Sul, gyda thymheredd o 32.3C yng Ngerddi Kew yn ne-orllewin Llundain.

Fe wnaeth Cymru gyrraedd ei dymheredd uchaf yn 2026 ddydd Sul, gyda 27.4C yng Nghaerdydd.

Mae disgwyl i'r tymheredd gyrraedd 26C ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Môn ddydd Llun.

Mae trefnwyr Eisteddfod yr Urdd wedi dweud eu bod nhw’n “cymryd pob cam posibl i sicrhau profiad diogel a chysurus i bawb” yn y gwres.

Maen nhw wedi galw ar bobl i sicrhau eu bod nhw'n yfed digon o ddŵr ac yn dod ag eli haul.

Dywedodd Tom Morgan, meteorolegydd gyda’r Swyddfa Dywydd, wrth PA: “Anaml iawn rydyn ni’n gweld tymheredd uwch na 35C, hyd yn oed yn ystod misoedd yr haf, felly mae gweld tymheredd yn agosáu at 35C ym mis Mai yn eithaf hanesyddol.”

Mae’r gwres yn cael ei ystyried yn beryglus i rai grwpiau bregus, gan gynnwys oedolion hŷn, gan fod eu cyrff yn cael trafferth rheoli tymheredd.

Mae Age UK yn argymell aros y tu mewn yn ystod oriau poethaf y dydd, rhwng 11:00 a 15:00, a chael bath neu gawod oer yn rheolaidd.

Dywedodd cyfarwyddwr elusen Age UK, Caroline Abrahams: “Fe allwn ni gyd helpu pobl hŷn i gadw’n ddiogel yn ystod cyfnodau o dywydd poeth drwy gadw golwg ar berthnasau, ffrindiau a chymdogion hŷn i weld a oes angen unrhyw beth arnyn nhw, neu a ydyn nhw’n cael trafferth gyda’r gwres.

“Gall cynnig casglu siopa neu feddyginiaeth, neu hyd yn oed roi benthyg ffan, wneud gwahaniaeth mawr.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.