Newyddion S4C

Cymru yn wynebu 'diffyg radiolegwyr mwyaf y DU'

Radiolegydd

Cymru sy’n wynebu’r problemau mwyaf yn y DU o ran diffyg radiolegwyr, yn ôl adroddiad newydd.

Mae Coleg Brenhinol y Radiolegwyr wedi galw ar lywodraeth nesaf Cymru i weithredu ar frys i ddatrys y broblem.

Mae radiolegwyr clinigol yn feddygon arbenigol sydd wedi'u hyfforddi i ddarllen a dehongli delweddau meddygol.

Hebddyn nhw bydd cleifion yn wynebu amseroedd aros hirach am driniaeth a rhagor yn marw o’r herwydd, meddai Coleg Brenhinol y Radiolegwyr.

“Mae cleifion yn aros yn hirach nag y dylen nhw am eu hadroddiadau ac rydym wedi cael sawl diagnosis o ganser wedi'i ohirio o ganlyniad,” meddai’r adroddiad.

Mae gan y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru:

  • Ddiffyg o 32% yn nifer o ymgynghorwyr, yr uchaf o unrhyw genedl yn y DU.
  • 9.7 o radiolegwyr fesul 100,000 o'r boblogaeth, y nifer isaf o'r pedair gwlad.

Mae Cymru hefyd yn gwario mwy nag unrhyw wlad arall yn y DU ar brynu arbenigedd i fewn. Tyfodd nifer y radiolegwyr ‘locum’ 57% rhwng 2023 a 2024, meddai Coleg Brenhinol y Radiolegwyr.

Ond dywedodd yr adroddiad newydd a gyhoeddwyd ddydd Iau bod disgwyl i nifer y radiolegwyr yng Nghymru dyfu yn gyflymach na chenhedloedd eraill y DU.

Dywedodd Dr James Powell, oncolegydd clinigol yn nghanolfan ganser Felindre yng Nghaerdydd bod y sefyllfa yn “waeth” yng Nghymru nac yng ngwledydd eraill Prydain.

“Mae bellach yn broblem sydd wedi bodoli am ddegawd neu fwy,” meddai wrth Radio Cymru.

“Yn anffodus mae’r Coleg Brenhinol yn amcangyfrif y bydd y sefyllfa yn parhau i waethygu dros y blynyddoedd nesaf.

“Mae lot o bwysau gwaith wrth weithio yn y maes yma ac yn anffodus os oes diffyg staff mae’r pwysau yn mynd i gynyddu.

“Dyna’r prif reswm mae staff yn gadael y maes yn gynnar.”

Doedd Llywodraeth Cymru ddim am ymateb gan bod yr adroddiad yn galw yn benodol ar lywodraeth nesaf Cymru i weithredu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.