Newyddion S4C

Oes gafr eto? Tref yn bwriadu cyflwyno geifr er mwyn tacluso mynwent

05/06/2025
Geifr Biogoats for Rent

Mae tref yn Sir Benfro yn bwriadu cyflwyno geifr er mwyn rheoli gordyfiant mewn mynwent eglwys.

Dywedodd Cyngor Tref Arberth bod rhannau o dir Eglwys Sant Andreas y dref wedi tyfu’n wyllt a’u bod nhw’n bwriadu cyflwyno’r geifr i ddatrys y broblem.

Maen nhw wedi galw ar bobl leol, yn enwedig plant “chwilfrydig”, i osgoi’r geifr tra eu bod nhw’n cwblhau eu gwaith.

“Fe fydd y geifr hyn yn helpu i glirio tyfiant o amgylch cerrig beddau ac ar draws y safle, gan ein galluogi i weithredu cynllun rheoli tir tymor hirach,” meddai’r cyngor tref.

“Bydd GPS yn sicrhau bod y geifr yn aros o fewn ardal ddynodedig, a bydd rywun yn eu gwirio nhw’n ddyddiol i sicrhau eu bod yn iach, yn ddiogel, ac yn cael gofal da drwy gydol eu hamser ar y safle.”

Dylai unrhyw berchnogion cŵn eu cadw ar dennyn o amgylch yr eglwys, meddai'r cyngor.

“Rydym yn deall y gallai plant fod yn chwilfrydig ac eisiau gweld y geifr,” ychwanegodd y cyngor.

“Fodd bynnag, gofynnwn yn barchus na ddylid annog hyn, gan y gallai amharu ar yr anifeiliaid ac ymyrryd â’u hymddygiad pori naturiol.”

Daw’r geifr o gwmni Biogoats 2 Rent, sy’n dweud eu bod nhw eisoes wedi darparu geifr ar gyfer Parc Cenedlaethol Sir Benfro.

Mae’r cwmni yn cael ei gynnal gan Dawn Hart a Richard White o Glunderwen, Sir Gaerfyrddin.

Yn hytrach na defnyddio coleri, mae’r geifr yn cael eu cadw yn eu hardaloedd dynodedig gan ddefnyddio technoleg lloeren GP.

Mae’n ffordd o reoli’r anifeiliaid a ymddangosodd yn ddiweddar ar Clarkson’s Farm, rhaglen ffermio’r seren deledu Jeremy Clarkson.

“Rwy’n credu iddo ddwyn y syniad oddi wrthym ni,” meddai Richard wrth dynnu coes.

“Ni yw’r unig gwmni yn y DU sy’n gwneud hyn; rydym yn cael ymholiadau o bob cwr o’r DU, ond gall y costau teithio ei wneud yn anymarferol i’r cwsmeriaid o bell.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.