Newyddion S4C

Gweithwyr iechyd i bleidleisio ar streiciau oherwydd eu tâl

GIG Cymru

Bydd gweithwyr iechyd yn cael cynnig pleidlais o blaid neu yn erbyn streicio, oherwydd anfodlonrwydd am eu tâl. 

Yn ôl undeb Unite, bydd eu haelodau yng Nghymru a Lloegr yn pleidleisio yn yr wythnosau nesaf  

Bydd y bleidlais ar gyfer gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn agor ar 9 Mehefin gyda'r balot yn Lloegr yn agor union wythnos yn ddiweddarach. 

Mae undeb Unite sy'n cynrychioli gweithwyr mewn amrywiol feysydd yn y Gwasanaeth Iechyd, yn annog eu haelodau i wrthod y cynnydd o 3.6% yn eu tâl. 

Mae'n nhw'n dadlau fod hynny yn is na graddfa chwyddiant, ac yn llai na'r hyn sydd wedi ei gynnig i feddygon a deintyddion. Yn ôl Unite, mae'r cynnydd hefyd yn llai na'r hyn sydd wedi ei gynnig i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd yn Yr Alban. 

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi "derbyn yr argymhellion yr adroddiad annibynnol a gafodd eu cyflwyno gan Gorff Adolygu Tâl y GIG."

'Sarhaus'

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Unite, Sharon Graham: "Mae'r Gwasanaeth Iechyd yn dioddef oherwydd sefyllfa argyfyngus yn sgil prinder staff. 

"Mae miloedd yn gadael y gwasanaeth, ac mae'r rhai sy'n dal yno bron â chyrraedd pen eu tennyn. Mae'r hyn sy'n cael ei gynnig yn sarhaus i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd." 

Yn ôl Unite, ers 2010, mae gweithwyr yng Nghymru a Lloegr wedi colli rhwng traean a hanner eu cyflog mewn termau real.   

Os yw'r gweithwyr yn pleidleisio dros wrthod y cynnig ariannol o 3.6%, a dros weithredu'n ddiwydiannol, mae'r undeb yn dweud y bydd union ddyddiadau'r streiciau a'r lleoliadau yn cael eu cyhoeddi maes o law.  

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn haeddu cydnabyddiaeth deg ac mae’r dyfarniad cyflog hwn, sy’n dyddio’n ôl i fis Ebrill, yn dangos ein bod yn gwerthfawrogi eu cyfraniad.

“Rydym yn cydnabod cryfder teimladau aelodau undeb dros gyflog ac rydym yn gweithio mewn partneriaeth â nhw i fynd i’r afael â’n huchelgais o adfer cyflogau yn y tymor hir mewn cyd-destun ariannol heriol iawn i Gymru.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.