Newyddion S4C

Rygbi: Tomos Williams yn ennill Chwaraewr y Tymor Uwch Gynghrair Lloegr

Tomos Williams

Yn ei flwyddyn gyntaf yn Uwch Gynghrair Lloegr, mae mewnwr Cymru a Chaerloyw, Tomos Williams wedi ennill gwobr Chwaraewr y Tymor.

Roedd y chwaraewr 30 oed yn rhan o garfan Caerloyw a orffennodd yn y pumed safle eleni.

Sgoriodd naw cais yn ystod y tymor a dechreuodd 23 allan o'r 25 o gemau.

Eleni oedd ei dymor cyntaf gyda'r clwb wedi iddo symud o Gaerdydd ddiwedd y tymor diwethaf.

Mae perfformiad Tomos Williams hefyd wedi plesio hyfforddwr y Llewod Andy Farrell, sydd wedi ei ddewis ar gyfer y daith i Awstralia ddiwedd y mis.

Wedi iddo ennill y tlws yn y noson wobrwyo yn The Brewery yn Llundain nos Fawrth, dywedodd y mewnwr ei fod wedi "mwynhau" chwarae i'r clwb y tymor hwn.

"Doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl," meddai.

"Cyrhaeddais gyda meddwl agored a 'dw i wir wedi mwynhau. Gallwn i ddim wedi dewis clwb gwell na Chaerloyw, na hyfforddwyr gwell, maen nhw wedi bod yn wych.

"Y ffordd o chwarae sydd wedi apelio i fi. Mae gennym y rhyddid i chwarae a dwi'n meddwl bod hynny wedi bod o fudd i fi a'r chwaraewyr."

Ar yr un noson fe gafodd gwobrau Uwch Gynghrair Menywod Lloegr eu cyhoeddi.

Enillodd prif hyfforddwr Menywod Cymru, Sean Lynn y teitl Cyfarwyddwr y Tymor gyda chlwb Caerloyw-Hartpury.

Enillodd y clwb y gynghrair eleni am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Roedd Lynn wedi aros gyda'r clwb tan ddiwedd y tymor cyn dechrau ar ei swydd newydd gyda'r tîm cenedlaethol cyn Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ym mis Mawrth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.