Newyddion S4C

Canolfannau bwyd Gaza i gau dros dro

Gaza (Reuters)

Bydd canolfannau dosbarthu cymorth yn Gaza ar gau ddydd Mercher ar ôl i fyddin Israel rybuddio y bydd ffyrdd sy'n arwain at y safleoedd yn cael eu hystyried fel "parthau ymladd".

Cyhoeddodd Sefydliad Dyngarol Gaza (GHF) ddydd Mawrth y byddai’n cau’r canolfannau dosbarthu bwyd yn Llain Gaza am ddiwrnod.

Mae Sefydliad Dyngarol Gaza (GHF) yn rhwydwaith cymorth dadleuol sy’n cael ei gefnogi gan yr Unol Daleithiau ac Israel.

Fe ddechreuodd weithredu’r wythnos diwethaf.

Cyhoeddodd eu bod yn cau'r  safleoedd ar gyfer "gwaith diweddaru, trefnu a gwella effeithlonrwydd".

Maent yn dweud mai ei blaenoriaeth yw "diogelu a sicrhau urddas i bobl gyffredin sy'n derbyn cymorth". 

Mewn diweddariad ar wahân, mae Lluoedd Amddiffyn Israel (IDF) wedi dweud y byddai pobl yn cael eu "gwahardd" rhag mynd i mewn i'r canolfannau dosbarthu neu deithio ar ffyrdd sy'n arwain atynt.

Daw hyn wedi i 27 o Balesteiniaid gael eu lladd gan arfau Israel wrth aros am fwyd ddydd Mawrth. 

Yn ôl yr IDF fe wnaeth eu lluoedd saethu ar ôl gweld pobl yn dod tuag atynt ac yn "gwyro oddi ar y llwybrau mynediad sydd wedi eu dynodi".

Yn ystod y cadoediad yn gynharach eleni roedd angen 600 o lorïau'r dydd i gyrraedd anghenion poblogaeth Palesteinaid.

Ddydd Mawrth, dosbarthwyd 21 o lorïau o fwyd.

Mae'r Cenhedloedd Unedig wedi rhybuddio bod mwy na dwy filiwn o bobl mewn perygl o newyn yn Gaza.

Fe ddaw'r rhybudd ar ôl gwaharddiad llwyr gan Israel ar gludo bwyd a chymorth arall a barhaodd am 11 wythnos.

Mae'r GHF wedi dweud y byddant yn gweithredu unwaith eto ddydd Iau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.