Prydain yn osgoi tariffau o 50% ar fewnforion dur ac alwminiwm
Mae Llywodraeth Prydain wedi croesawu penderfyniad Donald Trump i beidio codi 50% o dariff ar fewnforion alwminiwm a dur.
Fe fydd y tariff yn 25% i Brydain tra bod gwledydd eraill yn gorfod talu dwbl hynny.
Mae’r gorchymyn gan Arlywydd America newydd ddod i rym.
Fe benderfynodd Arlywydd yr Unol Daleithiau i “ddarparu triniaeth wahanol” i Brydain ar ôl cytundeb rhyngddyn nhw fis diwethaf.
Tra’n croesawu’r penderfyniad i beidio gosod tariff o 50% mae’r diwydiant yn rhybuddio bod yna dal “ansicrwydd” ynglŷn â’r gyfradd derfynol.
Dyw’r cytundeb rhwng Prydain ac America ddim wedi dod i rym eto.
Mae yna dal bosibilrwydd o osod tariff o 50% o fis Gorffennaf ar allforion dur o Brydain. Mae Donald Trump wedi dweud y gallai gynyddu'r tariff os yw'n penderfynu nad yw Prydain wedi "cydymffurfio gydag agweddau" o'r cytundeb.
Nos Fawrth fe ddywedodd Llywodraeth y DU eu bod yn “falch” na fydd y diwydiant yn gorfod talu tariffau ychwanegol.
Fe ddywedodd llefarydd eu bod wedi "ymrwymo i warchod busnesau Prydain a swyddi".
Maent hefyd yn dweud y byddant yn parhau i "weithio gyda'r UDA i weithredu'r cytundeb, fydd yn gweld y tariffau 25% ar ddur yn cael eu dileu".
Ond mae’r Ceidwadwyr wedi dweud bod y gorchymyn yn “ergyd arall”.