Newyddion S4C

Ysbyty Tywyn: Ansicrwydd yn golygu bod 'staff yn cael eu trin yn annheg’

Ysbyty Tywyn

Mae is-gadeirydd bwrdd iechyd y gogledd wedi dweud bod staff mewn ysbytai yn Nhywyn a Wrecsam yn cael eu trin “yn annheg” am nad ydyn nhw’n cael cynnig swyddi parhaol.

Fe wnaeth y sylwadau mewn cyfarfod i drafod dyfodol ysbytai cymunedol Tywyn yn ne-orllewin Gwynedd ac Ysbyty Penley yn Llannerch Banna ger Wrecsam.

Mae methiant Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i recriwtio digon o staff i gynnal ward cleifion mewnol yn Ysbyty Tywyn wedi ei feirniadu yn lleol.

Fe gafodd y ward cleifion mewnol ei chau ym mis Ebrill 2023 yn dilyn ymdrechion dro ar ôl tro i recriwtio a “dibyniaeth fawr” ar staff asiantaeth.

Yn Llannerch Banna daeth y cau cyn y Nadolig, ym mis Rhagfyr 2024.

Dywedodd adroddiad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bod staff “wedi wynebu ac yn parhau i wynebu ansicrwydd” wrth i’r gwasanaethau gael eu hadolygu.

Nod yr adroddiad oedd nodi cynigion ar gyfer datblygu atebion hirdymor ar gyfer ysbytai Tywyn a Penley.

Dywedodd Gareth Williams, is-gadeirydd y bwrdd iechyd, yn y cyfarfod fod staff ar gontractau dros dro yn cael eu trin yn “annheg” oherwydd y sefyllfa. 

Roedd hynny meddai yn mynd yn groes i egwyddor “gwaith teg” y bwrdd.

Dywedodd: “Dro ar ôl tro, pan fyddaf yn mynd o gwmpas y sefydliad hwn, rwy’n gweld staff yn cael eu trin yn annheg.

“O ran y rhai sydd ar gontractau tymor byr, maen nhw’n clywed ‘o, byddwn yn ei ymestyn am dri mis, efallai y byddwn yn gwneud penderfyniad bryd hynny’.

“Mae hynny wir yn siomi pobl, pobl â morgeisi a chyfrifoldebau eraill, maen nhw’n troelli yn y gwynt, tra ein bod ni’n penderfynu beth rydym yn ei wneud.

“Nid yw’n dderbyniol os ydyn ni’n dweud ein bod wedi ymrwymo i waith teg. Ond rydym yn dechrau gwneud cynnydd.”

Dywedodd Kamala Williams, pennaeth strategaeth a chynllunio iechyd BIPBC, wrth y cyfarfod nad oedden nhw wedi diystyru ailagor y gwelyau yn Nhywyn a Penley.

Ond roedd gan y bwrdd iechyd "ddyletswydd" i ystyried ffyrdd eraill o ddarparu gwasanaethau diogel, cynaliadwy ac o ansawdd uchel a oedd yn diwallu anghenion y cymunedau lleol, meddai.

Dywedodd y bwrdd iechyd y byddai trafodaethau ac ymgynghori pellach yn cael eu cynnal eleni, gyda'r argymhellion terfynol yn cael eu cyhoeddi fis Rhagfyr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.