Newyddion S4C

Y Smyrffs yn ôl: 'Pleser' serennu yn y gyfres medd Iestyn Garlick

Iestyn Garlick a'r Smyrffs

Mae’r actor a’r cyflwynydd Iestyn Garlick wedi sôn am ei “bleser” o fod yn ôl yn y stiwdio er mwyn lleisio dau gymeriad yng nghyfres newydd Y Smyrffs. 

Daw wrth i’r gyfres fyd enwog ddychwelyd i S4C am y tro cyntaf ers 40 mlynedd ddydd Mawrth. 

Mae Iestyn Garlick wedi sôn am y profiad “difyr” o fod yn rhan o daith y gyfres yn ôl ar y sgrin. 

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd: “Roedd gweithio ar Y Smyrffs yn brofiad difyr iawn. 

“Mae cartŵns wedi bod yn rhan o’m mywyd i ers mwy o flynyddoedd na hoffwn i ddweud. 

“Mae’n siŵr mae’n agos at ddeugain mlynedd ers i fi ‘neud fy nghartŵn cynta i’r BBC ar gyfer cyfres HAFoc a rhyw bethau felly. 

“Y tro yma wrth gwrs mae’r dechnoleg bellach – mae rhywun yn gwneud nhw ar ben ei hun – da chi ddim yn gweld eich cyd actorion ond oedd e’n brofiad difyr iawn. 

“Oedd hi’n neis cael bod yn ôl yn stiwdio, neis cael y cwmni a neis cael gwneud pethau gwirion a cael yn nhalu amdano fo.”

Cafodd Y Smyrffs eu creu ar gyfer llyfr comig ym 1958 yn wreiddiol, ond maent bellach i'w gweld mewn ffilmiau ac ar y teledu.

Pa gysylltiad sydd ganddo â'r Smyrffs?

Mae’r actor yn chwarae rhan dau gymeriad yn y gyfres, sef Twmffat a Ffarmwr Smyrff.

Dywedodd: “Mae ‘na rywbeth ychydig bach yn araf am Twmffat ond yn hoffus ac yn annwyl iawn chwarae teg iddo fo.

“Mae rhaid i mi gyfadde', mae Ffarmwr Smyrff ddim yn annhebyg i gymeriad arall sydd ‘di bod yn rhan o’m mywyd i sef cymeriad o’r enw Jeifin Jenkins.

“Dyw e ddim yn annhebyg i hwnnw,” meddai.

Wrth i’r gyfres dychwelyd i’r sgrin fach yn y Gymraeg ddydd Mawrth, mae’r actor yn awyddus i bobl wybod am ei gysylltiad hanesyddol gyda’r Smyrffs.

“Nol yn dechrau’r 80au… o’n i’n cyflwyno rhaglen o’r enw Twndish, sef rhaglen bop yn y BBC.

“Un o’r rhaglenni nathon ni, oedd edrych ar gerddoriaeth pop ar y cyfandir. Gesh i’m magu yn Yr Iseldiroedd felly y rheswm nathon ni edrych arno oedd oherwydd bo’ fi’n gyfarwydd â’r wlad a’r iaith.

“A be’ nathon ni benderfynu oedd,  nawn ni edrych ar be sydd yn y deg ucha’ yr wythnos yma a nawn ni sôn amdanyn nhw a gewn ni glips ohonyn nhw.

“Ac yn rhyfeddol roedd nifer o bethau bizarre iawn – ond rhif 1 oedd cân Smyrffs gan Father Abraham.

“Ac felly dwi yn hawlio'r ffaith taw fi a fi yn unig dath â’r Smyrffs i Brydain am y tro cynta!” 

Bydd Y Smyrffs yn cael ei ddarlledu ar S4C am 17.00 ddydd Mawrth a bydd modd ei ffrydio ar S4C Clic a BBC iPlayer.

Llun Y Smyrffs: © Peyo Productions – Dupuis Édition & Audiovisuel – Dargaud Media – KiKA – KETNET – RTBF.be – 2021

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.