Dirprwy arweinydd cyngor yn goroesi pleidlais o ddiffyg hyder ar ôl sylwadau am addysg Gymraeg
Mae dirprwy arweinydd Cyngor Sir Benfro wedi goroesi pleidlais o ddiffyg hyder yn dilyn sylwadau am addysg Gymraeg yn y sir.
Cafodd cais am gyfarfod arbennig i drafod y cynnig o ddiffyg hyder yn y Cynghorydd Paul Miller ei gyflwyno gan arweinydd y grŵp annibynnol ar y cyngor, y Cynghorydd Huw Murphy.
Roedd cwestiynau wedi eu codi am arweinyddiaeth y Cynghorydd Miller yn dilyn ei sylwadau am Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg.
Mewn cyfarfod o'r cabinet fis Ebrill, dywedodd y Cynghorydd Miller ei fod yn adnabod rhai rhieni oedd yn anfon eu plant i Ysgol Caer Elen yn Hwlffordd oherwydd ei bod hi'n ysgol "dda" ac nad oedden nhw'n "poeni dim os oedd hi'n Gymraeg neu Saesneg".
Yn ôl y Cynghorydd Murphy, roedd y dirprwy arweinydd wedi defnyddio "iaith annerbyniol" wrth drafod y cynllun.
Ddydd Llun, fe wnaeth 16 o aelodau bleidleisio o blaid y cynnig, tra bod 28 wedi pleidleisio yn erbyn. Fe wnaeth 11 ymwrthod.
Cyn y bleidlais, dywedodd y Cynghorydd Miller ei fod yn ymddiheuro os oedd ei eiriau wedi brifo unrhyw un.
Ond dywedodd ei fod wedi defnyddio ymadrodd un fam yn ei etholaeth yn hytrach na'i eiriau ei hun.
"Rwy'n credu y dylai'r Cynghorydd Murphy fod â chywilydd mawr am ei weithredoedd yn yr achos yma," meddai.
"Mae'n ceisio creu rhaniad yn Sir Benfro lle nad oes rhaniad o'r fath yn bodoli, ac mae'n gwneud hynny, rwy'n credu, oherwydd ei fod yn credu ei fod yn gweddu gyda'i agenda gwleidyddol personol ei hun i wneud hynny."