Newyddion S4C

Dyn yn y llys mewn cysylltiad â chwalu achos troseddol cyntaf ymosodiadau Ysgol Dyffryn Aman

Christopher Elias

Mae dyn wedi ymddangos yn y llys mewn cysylltiad â chwalu achos troseddol cyntaf merch oedd wedi ei chyhuddo o ymosodiadau yn Ysgol Dyffryn Aman.

Fe wnaeth Christopher Elias, 45 oed, o Waunceirch, Castell-nedd Port Talbot, ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun.

Mae wedi ei gyhuddo o'r drosedd o wrthod ateb cwestiwn yn ymwneud â'r cymhwyster i wasanaethu ar reithgor.

Fe fydd yn ymddangos eto ar 30 Mehefin.

Cafodd Mr Elias ei gyhuddo mewn perthynas â diwedd achos llys cyntaf merch 14 oed oedd wedi ei chyhuddo o geisio llofruddio dau athro a chyd-ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Aman ym mis Ebrill 2024.

Yn dilyn ail achos troseddol cafodd y ferch 14 oed, na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol, ei dedfrydu i 15 mlynedd o garchar ym mis Ebrill am geisio llofruddio Fiona Elias, Liz Hopkin a disgybl yn yr ysgol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.