
Awyren o'r Ail Ryfel Byd yn dychwelyd i'r lleoliad yn y gogledd lle cafodd ei hadeiladu
Mae awyren o'r Ail Ryfel Byd wedi dychwelyd i'r lleoliad yng ngogledd Cymru lle cafodd ei hadeiladu wedi 80 mlynedd.
Cafodd yr Avro Lancaster ei hadeiladu ym Mrychdyn ym mis Mai 1945.
Fe wnaeth yr awyren fomio hedfan dros Frychdyn ochr yn ochr ag awyrennau Supermarine Spitfire a Hawker Hurricane cyn glanio yn y ffatri adeiladu adenydd awyrennau nos Wener.

Roedd y Lancaster PA474, sydd dan berchnogaeth ac yn cael ei gweithredu gan yr Awyrlu Brenhinol, wedi perfformio yn seremoni Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop, wrth hedfan dros Lundain yn gynharach eleni.
Dywedodd Mark Sugden, Swyddog Rheoli Hediadau Coffa Brwydr Prydain bod yr ymweliad i Frychdyn yn un o uchafbwyntiau'r flwyddyn.
"Mae'r tymor hedfan hyd yma eleni wedi bod yn gofiadwy gyda dathliadau Diwrnod Buddugoliaeth.
"Ond dyma un o uchafbwyntiau'r flwyddyn wrth i ni ddychwelyd ein hawyren anhygoel i'w man geni."