Dwayne Peel: 'Rhaid chwarae yn ffordd y Scarlets yn erbyn Leinster'
Mae Dwayne Peel wedi annog ei chwaraewyr i “chwarae yn ffordd y Scarlets” wrth iddyn nhw herio Leinster yn rownd yr wyth olaf y Bencampwriaeth Rygbi Unedig ddydd Sadwrn.
Scarlets oedd yr unig ranbarth o Gymru a lwyddodd i orffen yn hanner uchaf y tabl ar ddiwedd y tymor arferol.
Eu gwobr am orffen yn wythfed yw taith i Stadiwm Aviva yn Nulyn i herio’r tîm orffennodd ar ben y domen.
Inline Tweet: https://twitter.com/scarlets_rugby/status/1928104346291458204
Gyda 19 aelod o garfan Iwerddon a chwaraewyr rhyngwladol o Seland Newydd, De Affrica a Ffrainc yn eu carfan o 23, y Gwyddelod yw’r ffefrynnau clir i ennill eu lle yn y rownd gyn derfynol.
Ond mae’r hyder yng ngharfan y Scarlets wedi codi dros y misoedd diwethaf yn dilyn buddugoliaethau nodedig dros y Bulls a Lions o Dde Affrica, a Leinster eu hunain ychydig dros fis yn ôl.
Dywedodd y prif hyfforddwr Dwayne Peel: “Rydym wedi gweithio’n galed i gyrraedd y gemau ail gyfle.
“Nawr mae’n rhaid i ni groesawu’r her, mae’n rhaid i ni wneud y gorau ohono nawr ein bod ni yma.
“Does dim tasg fwy mewn rygbi clwb na mynd i Ddulyn, ond rydym yn edrych ymlaen ato. Dy’n ni’n hyderus yn ein gallu ein hunain ac rydym yn gwybod y bydd yn rhaid i ni fod ar ein gorau glas.
“Mae’n mynd i fod yn achlysur gwych, bydd yn brofiad newydd i lawer o’r bois – bydd yn rhaid i ni fod yn ddewr, bydd yn rhaid i ni fod yn gywir a bydd yn rhaid i ni geisio rhoi ein stamp ar ein gêm, chwarae yn ffordd y Scarlets.”
Mae Peel wedi aros gyda’r un garfan o 23 a wnaeth golli 12-3 yn erbyn y Sharks yn Durban bythefnos yn ôl, gyda Josh Macleod yn arwain y tîm.
Yn 28 oed, Johnny Williams yw’r olwr hynaf fydd ar y cae, a hynny wedi iddo arwyddo cytundeb newydd i aros gyda’r clwb.
Un absenoldeb amlwg yw cyn fewnwr Cymru, Gareth Davies, sy’n methu allan ar ôl dioddef anaf. Archie Hughes fydd yn cychwyn yn y crys rhif naw, gyda Sam Costelow yn faswr.
Llun: Dwayne Peel (Asiantaeth Huw Evans)