Newyddion S4C

Elon Musk yn gadael Llywodraeth UDA ar ôl dweud bod cynlluniau Trump wedi ei ‘siomi’

Donald Trump ac Elon Musk

Mae'r biliwnydd Elon Musk yn gadael Llywodraeth UDA ddiwrnod ar ôl dweud bod cynlluniau Donald Trump wedi ei “siomi”.

Ers mis Ionawr roedd wedi bod yn arwain adran oedd yn bwriadu torri maint Llywodraeth yr Unol Daleithiau.

Mewn neges ar wefan X dywedodd dyn cyfoethoga’r byd ei fod yn ddiolchgar i’r Arlywydd Donald Trump am roi cyfle iddo arwain adran DOGE.

Ond daw ei ymadawiad ddiwrnod ar ôl iddo ddweud ei fod wedi’i “siomi” gan gynlluniau Trump i gynnig toriadau trethi gwerth triliynau o ddoleri a hybu gwariant ar amddiffyn.

Dywedodd pennaeth SpaceX a Tesla mewn cyfweliad â CBS, y byddai'r "bil mawr, prydferth", fel y mae Trump yn ei alw, sy'n mynd drwy'r Gyngres ar hyn o bryd, yn cynyddu diffyg ariannol y wlad.

Dywedodd Musk hefyd ei fod yn credu ei fod yn "tanseilio gwaith" adran DOGE.

Roedd Elon Musk wedi addo torri "o leiaf $2 triliwn" o gyllideb y llywodraeth ffederal, cyn haneru'r targed hwn, ac yna ei leihau i $150bn.

Amcangyfrifir bod DOGE wedi torri swyddi 260,000 o'r gweithlu sifil ffederal o 2.3 miliwn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.