Lloegr ‘yn mynd i redeg allan o ddŵr yfed o fewn degawd'
Mae Lloegr “yn mynd i redeg allan o ddŵr yfed erbyn canol y 2030au” heb adeiladu cronfeydd ddŵr newydd yn ôl gweinidog.
Dywedodd gweinidog dŵr Llywodraeth y DU, Emma Hardy, eu bod nhw’n wynebu “argyfwng” am nad oedden nhw wedi adeiladu'r cronfeydd a oedd angen.
“A dweud y gwir tydyn ni heb adeiladu cronfa ddŵr ers 30 o flynyddoedd,” meddai.
Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd dau brosiect cronfa ddŵr newydd mawr yn cael eu prosesu'n gyflym.
Maen nhw wedi datgan y prosiectau yn Nwyrain Anglia a de Sir Lincoln yn rai o "arwyddocâd cenedlaethol", gan ganiatáu iddynt fynd yn gyflymach drwy'r broses gynllunio.
Mae’r llywodraeth hefyd wedi datgan eu bwriad i adeiladu saith cronfa ddŵr arall, gyda phob un ohonyn nhw yn Lloegr.
Daw’r cyhoeddiad ar ddiwedd un o’r gwanwynau sychaf ar gofnod.
Wrth siarad ar Times Radio, dywedodd Emma Hardy bod y llywodraeth “yn cymryd camau digynsail” i adeiladu cronfeydd dŵr newydd.
“Ac mae hyn yn golygu bod y broses gynllunio yn cael ei chymryd oddi wrth yr awdurdod lleol,” meddai.
“Mae’r pŵer yn cael ei roi yn nwylo’r Ysgrifennydd Gwladol, er mwyn sicrhau ein bod yn eu cyflawni.
“A’r hyn y mae hyn yn ei olygu yw y gallwn godi degau o filoedd o gartrefi newydd a gallwn sicrhau bod gan bawb y dŵr yfed sydd ei angen arnyn nhw.”
Tywydd sych
Yng Nghymru mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi symud y wlad o statws 'arferol' i statws 'tywydd sych estynedig' wedi'r cyfnod hir o dywydd sych a chynnes yn ddiweddar.
Mae'r penderfyniad wedi'i wneud ar sail ffactorau amgylcheddol a phryderon am y pwysau y mae tymereddau uchel a diffyg glaw sylweddol yn ei gael ar afonydd a bywyd gwyllt.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod y glawiad tri mis o Chwefror i Ebrill yng Nghymru yn 59% o'r hyn sydd i'w ddisgwyl ar gyfer yr adeg yma o'r flwyddyn.
Mae hyn yn cyfateb i un o'r cyfnodau tri mis sychaf a gofnodwyd erioed yn ôl CNC.
Mae timau CNC ar draws y wlad yn dweud fod llif y mwyafrif o afonydd ar hyn o bryd naill ai yn isel neu yn eithriadol o isel.
Llun: Cronfa Haweswater, Cumbria. Llun gan PA / Owen Humphreys.