Cyhoeddi carfan Cymru ar gyfer rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026
Mae carfan Cymru ar gyfer y ddwy gêm nesaf yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026 wedi cael ei chyhoeddi.
Mae Craig Bellamy wedi enwi 27 o chwaraewyr yn ei garfan ar gyfer y gemau yn erbyn Liechtenstein yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 6 Mehefin a Gwlad Belg ym Mrwsel ar 9 Mehefin.
Mae Ethan Ampadu a Harry Wilson yn dychwelyd i'r garfan, wedi iddynt golli y gemau agoriadol yn yr ymgyrch ym mis Mawrth yn sgil anaf.
Mae Bellamy hefyd wedi cynnwys yr amddiffynwr Roman Kpakio am y tro cyntaf.
Mae nifer o'r chwaraewyr sydd wedi eu henwi yn y garfan wedi profi diwedd llwyddiannus i'r tymor gyda'u clybiau.
Fe enillodd Ben Davies a Brennan Johson Gynghrair Europa gyda Tottenham Hotspur, ac mae Connor Roberts, Karl Darlow, Joe Rodon, Ethan Ampadu, Daniel James a Chris Mepham wedi sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr gyda Leeds United.
Mae Cymru yn ail ar hyn o bryd yng Ngrŵp J ar ôl buddugoliaeth o 3-0 yn erbyn Kazakhstan a gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Gogledd Macedonia oddi cartref.
Bydd enillwyr y grŵp yn cymhwyso yn awtomatig ar gyfer Cwpan y Byd, tra y bydd y pedwar safle sy'n weddill yn cael eu penderfynu gan gemau ail-gyfle.