Newyddion S4C

'Babi Mam bob tamad': Ymateb teulu bachgen aeth yn feiral ar ôl yr Eisteddfod

'Babi Mam bob tamad': Ymateb teulu bachgen aeth yn feiral ar ôl yr Eisteddfod

Mae bachgen ifanc o Wynedd sydd wedi mynd yn feiral ar ôl diolch i’w fam am ei helpu i ennill cystadleuaeth adrodd yn yr Eisteddfod wedi dechrau tudalen Tik Tok.

Fe ddaeth Guto Bell o Ysgol Bro Lleu yn fuddugol yn y Llefaru unigol i flynyddoedd 3 a 4 yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025.

Pan gafodd wybod ar y llwyfan canlyniadau ei fod wedi dod yn gyntaf, fe ddechreuodd grio.

Dywedodd ei fod yn “cweit flin am bod o’n i’m isio dysgu adrodd. Ond wedyn nes i trio gora fi i mam.”

Mae'r clip bellach wedi ei wylio dros filiwn o weithiau ar gyfryngau cymdeithasol S4C.

Wrth siarad ar BBC Radio Cymru fore Mercher, dywedodd ei fod wedi “ecseitio gymaint” efo’r holl sylw mae ei ymateb wedi ei gael.

"Oedd o yn deimlad da i fi, o'n i'n crio hapus...dwi 'di ecseitio gymaint," meddai.

Ychwanegodd ei fod wedi dechrau tudalen Tik Tok ac nad oedd yn disgwyl ennill.

Dywedodd ei fam, Sara Bell, ei bod hi’n deall pam ei fod wedi ymateb yn emosiynol. 

“O’n i yn gwybod pam odd o’n crio, achos da ni di cael ymarferion eitha heriol ar brydiau lle mae Guto 'di bod yn ddigywilydd efo fi, ddim yn gwrando ar fy nghyngor i a ballu. So o’n i yn meddwl dyna pam bod o yn crio. Ond ma Guto yn babi mam bob tro.

"Ond babi Mam bob tamaid ydi Guto, o'n i dan emosiwn, o'n i mor falch ohona fo."

Mae tad Guto, Daniel Bell, yn wyneb cyfarwydd i rai am iddo ymddangos yng nghyfres S4C Ysgol Ni, Y Moelwyn.

Dywedodd bod Guto yn mwynhau’r sylw mae o wedi cael yn sgil ei ymateb i’r canlyniad.

“Dwi’n meddwl bod o’n bwysig bod Guto yn joio’r profiad a bod petha ddim yn mynd yn ormod iddo fo," meddai. 

"Ond mae o yn joio fo hyd yn hyn ac yn joio gweld ei hun ar y teledu a clywed ei hun ar y radio, ac ma Dad yn eitha cenfigennus bod tri munud yn yr Eisteddfod wedi neud o yn fwy poblogaidd na Dad mewn cyfres gyfan!”

Yn ôl Sara, mae Guto wedi elwa o’r hyn mae’r Urdd yn ei gynnig.

“Fysa Guto ddim di camu mewn i stafall fach rhagbrofion y cylch ddwy flynadd yn ôl. Ac o’n i yn ei weld o ar y llwyfan ddoe a’r hyder mae’r Urdd di rhoi iddo fo yn ei ail flwyddyn o gystadlu, mae o mor, mor werthfawr.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.