Lerpwl: Dyn wedi ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio yn parhau yn y ddalfa
Mae dyn sydd wedi ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio yn ystod gorymdaith yn Lerpwl brynhawn Llun yn parhau yn y ddalfa.
Fe gafodd y dyn 53 oed ei arestio hefyd ar amheuaeth o yrru'n beryglus ac o yrru o dan ddylanwad cyffuriau.
Fe wnaeth miloedd o bobl ymgynnull ar strydoedd Lerpwl i ddathlu coroni tîm pêl-droed Lerpwl yn bencampwyr Uwch Gynghrair Lloegr.
Mae Heddlu Glannau Mersi yn dweud eu bod yn credu fod y car a wnaeth daro degau o bobl wedi gallu dilyn ambiwlans a oedd yn mynd at berson oedd wedi dioddef trawiad ar y galon.
Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Ditectif Karen Jaundrill fod cyfanswm o 65 o bobl wedi'u hanafu yn dilyn y digwyddiad ar Stryd y Dŵr ger canol y ddinas brynhawn Llun.
Cafodd mwy na 50 o bobl, gan gynnwys plant, eu trin mewn gwahanol ysbytai. Mae 11 o bobl yn parhau yno mewn cyflwr sefydlog.
Fe wnaeth y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Jenny Sims amddiffyn yr ymgyrch blismona yn ystod yr orymdaith.
Dywedodd fod y llu wedi paratoi "ar gyfer pob sefyllfa" gan gynnwys cau ffyrdd a phresenoldeb heddlu arfog.
"Doedd yna ddim gwybodaeth i awgrymu y byddai digwyddiad o'r natur yma yn digwydd," meddai.
Wrth roi diweddariad ar y sefyllfa, dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Ditectif Karen Jaundrill fod y dyn 53 oed o ardal Gorllewin Derby yn Lerpwl, yn parhau yn y ddalfa ac yn cael ei gyfweld gan swyddogion.