Newyddion S4C

'Gymaint o hwyl': Elen o'r Traitors yn gobeithio parhau i gyflwyno

'Gymaint o hwyl': Elen o'r Traitors yn gobeithio parhau i gyflwyno

Mae un o sêr trydedd cyfres The Traitors ar BBC 1 wedi dweud ei bod hi'n gobeithio aros yn y byd cyflwyno ar ôl Eisteddfod yr Urdd ym Mharc Margam eleni. 

Mae Elen Wyn o Ynys Môn yn cyflwyno ar gyfryngau cymdeithasol S4C gydol yr wythnos. 

Y llynedd, cafodd cynnwys cyfryngau cymdeithasol S4C o Eisteddfod yr Urdd ei wylio dros 5 miliwn o weithiau, gan gadarnhau'r platfformau cymdeithasol fel un o'r ffyrdd mwyaf poblogaidd o gael blas o'r ŵyl.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Elen ei bod yn mwynhau'r wythnos ar y maes ym Margam hyd yn hyn. 

"Mae'r profiad o gyflwyno mor ddiddorol, ac yn gymaint o hwyl," meddai. 

Ac mae hi wedi newid gyrfa yn ddiweddar, yn sgil y sylw a ddaeth o fod ar gyfres y Traitors ddechrau'r flwyddyn.

"Ges i gymaint o gariad ym mis Ionawr ac erbyn diwedd y mis roedd gen i asiant," meddai.

"Fis diwethaf, nes i orffen fel cyfieithydd a 'dw i bellach yn llawrydd.

"'Dw i'n gobeithio mentro i'r byd cyflwyno, felly mae hwn yn ddechrau gwych i fi.

"A dwi'n athrawes ganu ar yr ochr. Ond dwi'n wirioneddol mwynhau cyflwyno hyd yn hyn de - mae'n gymaint o hwyl.

"Do'n i erioed wedi dychmygu y byddai bod ar y Traitors yn gallu arwain at yrfa hollol newydd.

"Dwi mor, mor ddiolchgar at yr holl bobl sydd wedi dangos gymaint o gariad tuag ata i achos swn i ddim yn gwneud hyn hebddyn nhw i gyd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.