Newyddion S4C

Maer Lerpwl: 'Peidiwch â dyfalu am yr hyn a ddigwyddodd'

Steve Rotheram

Mae Maer Rhanbarth Dinas Lerpwl wedi gofyn i bobl beidio â dyfalu ar ôl i gar daro yn erbyn pobl yn ystod gorymdaith i ddathlu tîm pêl-droed Lerpwl yn bencampwyr Uwch Gynghrair Lloegr.

Roedd Steve Rotheram yn ymateb i honiadau y gallai'r digwyddiad fod yn gysylltiedig ag alcohol.

"Mae yna lawer o ddyfalu ac mae hynny’n rhan o’r broblem," meddai wrth raglen BBC Breakfast fore Mawrth.

"Mae'r holl bethau hynny wedi achosi syndod mawr, ond fe weithredodd yr heddlu’n gyflym iawn, iawn i dawelu rhywfaint o’r dyfalu hwnnw.

"Dydw i ddim yn meddwl ei bod yn werth i ni ddyfalu beth allai fod wedi digwydd i'r gyrrwr."

Cafodd dyn ei arestio yn dilyn y digwyddiad ar Water Street ger canol y ddinas brynhawn Llun.

Dywedodd Heddlu Glannau Mersi ei fod yn 53 oed, yn wyn, yn Brydeinig ac o ardal Lerpwl. Roedden nhw'n credu mai fo oedd gyrrwr y cerbyd.

Doedden nhw ddim yn trin y digwyddiad fel un terfysgol, meddai'r heddlu.

Yn ôl yr heddlu fe gafodd nifer o bobl eu hanafu, gan gynnwys pedwar o blant.

Mae 27 o bobl wedi eu cludo i'r ysbyty. Mae dau berson, gan gynnwys un o'r plant, wedi dioddef anafiadau difrifol.

Roedd miloedd wedi ymgynnull ar strydoedd Lerpwl er mwyn cymryd rhan yn yr orymdaith. 

Fore Mawrth mae cordon heddlu yn parhau yn ei le ar Water Street.

Mae fan heddlu wedi'i pharcio o flaen pabell las ar y ffordd ac mae swyddogion heddlu yn bresennol.

Dywedodd cyn-reolwr Lerpwl Jurgen Klopp, a oedd yn bresennol yn yr orymdaith ddydd Llun ei fod "mewn sioc ac wedi ei lorio."

Ychwanegodd fod meddyliau ei deulu "gyda phawb sydd wedi eu hanafu neu eu heffeithio.

"YNWA."

 

 
 


 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.