Mwmbwls y lleoliad glan môr drytaf yng Nghymru i brynu tŷ
Mwmbwls yn sir Abertawe yw’r lleoliad glan môr mwyaf drud yng Nghymru i brynu tŷ, yn ôl ymchwil.
Y pris cyfartalog am dŷ yn y pentref poblogaidd, sydd wedi ei leoli ym mae Abertawe oedd £417,403 yn 2024.
Mae’r pentref yn nodedig am fod yn borth i benrhyn Gŵyr a man geni'r actores Catherine Zeta Jones.
Y lle rhataf i brynu eiddo glan môr yng Nghymru yw Prestatyn, yn ôl yr ymchwil gan fanc Lloyds.
Cost gyfartalog tŷ yn y dref yn Sir Ddinbych oedd £192,331 y llynedd.
Sandbanks, yn sir Dorset, oedd y drytaf ym Mhrydain gyda phris cyfartalog tŷ yn £965,708.
Campbeltown ar benrhyn Kintyre yn Argyll a Bute yn yr Alban oedd y lle rhataf ym Mhrydain, medd yr arolwg, gyda phris cyfartalog tŷ yno yn £103,078.
Ledled Prydain, roedd pris cyfartalog cartref ger y môr yn £295,991 y llynedd – i lawr 1% o’i gymharu â 2023 – meddai Lloyds.
Dywedodd pennaeth morgeisi Lloyds, Amanda Bryden: “Mae byw ar yr arfordir yn parhau i fod ag apêl arbennig – boed yn atyniad golygfeydd o’r môr, traethau tywodlyd, neu fywyd arafach.
“Mae hefyd yn bwysig cydnabod nad yw pob ardal arfordirol yn rhannu’r un ffawd.
"Mae rhai trefi glan môr yn wynebu heriau sylweddol, o economïau tymhorol i ddiffyg tai fforddiadwy i bobl leol.”
Llun: Coast Magazine