Newyddion S4C

Tyfu te ar lethrau tir fferm ym Mhowys fel rhan o arbrawf newydd

Tyfu te yn y DU

Mae dail te bellach yn cael eu tyfu ar lethrau ym Mhowys, a hynny fel rhan o waith ymchwil gan wyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Ac fe allai rhesi o blanhigion te ddod yn olygfa fwy cyfarwydd ar fryniau Cymru yn y dyfodol o ganlyniad, medd ymchwilwyr. 

Daw'r datblygiad fel rhan o waith ymchwil i ddadansoddi cyfansoddiad cemegol te sydd yn cael ei dyfu mewn ardaloedd "llai traddodiadol," gan gynnwys yn Dartmoor yn ne orllewin Lloegr. 

Mae’r gwyddonwyr yn gobeithio y bydd eu canfyddiadau’n helpu tyfwyr te yn y Deyrnas Unedig i ddatblygu strategaethau bridio, arferion amaethu a dulliau prosesu sy'n addas ar gyfer amodau hinsawdd yn y rhan yma o'r byd.

Dywedodd Dr Amanda J Lloyd, uwch ymchwilydd mewn bwyd, diet ac iechyd yn Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth, bod gwaith ymchwil o’r fath yn bwysig gan ei fod yn darparu proffil cemegol cynhwysfawr o de sy’n cael ei dyfu mewn rhanbarthau llai traddodiadol.

“Mae’n ganfyddiadau'n cynnig mewnwelediad newydd i addasrwydd planhigion te a'u potensial ar gyfer eu tyfu mewn rhanbarthau newydd, gan gyfrannu at ddiogelwch bwyd byd-eang ac arallgyfeirio amaethyddol,” meddai.

Mae'r astudiaeth, sydd wedi ei gyhoeddi mewn papur academaidd Metabolites, yn canolbwyntio ar chwe math o de a gafodd eu dewis oherwydd eu gallu i addasu i amodau amgylcheddol amrywiol a'u potensial ar gyfer amrywiaeth gemegol.

Mae Dr Lloyd a’i thîm wedi bod yn gweithio gyda Fferm Buckhall ger Trefyclo ym Mhowys sy’n torri tir newydd drwy dyfu te o dan amodau ucheldiroedd Cymru. 

Roedd y prosiect yn rhan o gam cyntaf Her Technoleg Bwyd-Amaeth SBRI, a arianwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r tîm ymchwil hefyd yn gweithio gyda chwmni Te Ystâd Dartmoor yn Nyfnaint. Mae gan yr ardal “ficrohinsawdd unigryw ac amrywiaeth yn ei phridd,” meddai’r arbenigwyr.

Llun: Dr Amanda J Lloyd a Dr Ali Warren-Walker yn casglu samplau ar leoliad Te Ystâd Dartmoor

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.