Newyddion S4C

Galw am fwy o bobl sy'n siarad Cymraeg i ddewis maethu

Galw am fwy o bobl sy'n siarad Cymraeg i ddewis maethu

Profiad newydd a phennod newydd.

Mae maethu'n gallu bod yn frawychus i nifer ar y dechrau ond mae'n gallu bod yn werthfawr iawn.

Dyna'n wnaeth Meleri, mentro ar daith o faethu a heb edrych yn ôl.

"Wnes i ddechrau fel gofalwr maeth yn darparu gofal ysbaid.

"Felly, o'n nhw'n dod draw yn y gwyliau ysgol, penwythnosau ac ambell noson.

"Dw i'n maethu ar ben fy hun, felly'n rhiant sengl ond mae'r teulu yma'n lleol a 'dan ni'n gwneud o hefo'n gilydd.

"Dw i'n neud o ben fy hun ond erioed 'di teimlo'n unig yn y broses.

"Mae 'na wastad cefnogaeth ac mae yna i'r ddau ohonom ni."

Gyda galw am fwy o ofalwyr maeth sy'n siarad Cymraeg mae Aneesa'n ddiolchgar iawn ei bod wedi'i maethu gan deulu oedd yn siarad yr iaith.

"Pan wnaeth un rhiant farw roedd rhiant arall yn gweld hi'n anodd watsiad ar ôl pump o blant.

"Roedd y social workers 'di ffeindio lle ym Mhwllheli lle dw i nawr.

"Ro'n ni'n nerfus i ddechrau, fatha unrhyw un sy'n mynd i ofal maeth.

"Ond, wnaethom trin fi fel bod fi'n teulu a thrin fi fel maen nhw'n wneud efo plant nhw ac yn falch o hwnna.

"Dw i mor falch bod nhw'n siarad Cymraeg chos mae Cymraeg fi yn gryfach."

Ond mae'n her denu gofalwyr newydd.

Roedd 7,200 o blant yn derbyn gofal yng Nghymru y llynedd.

O'r rhain, roedd 4,875 mewn gofal maeth.

Ffigwr sydd wedi cynyddu 3.7% ers 2018.

Dyna'r nod erbyn hyn, denu mwy i faethu a fwy o siaradwyr Cymraeg.

"Mae tua 800 o ofalwyr maeth newydd sydd angen arnom erbyn 2026.

"Mae hynny'n mynd i fod yn her ond mae'r awdurdodau lleol yn gweithio'n galed iawn i drio cael at ofalwyr maeth newydd.

"Mae canran o blant mewn gofal sy'n siaradwyr Cymraeg iaith cyntaf.

"Ar y funud, sdim digon o siaradwyr Cymraeg sy'n maethu.

"Dw i'n amau y rheswm yw bod gan rai darlun perffaith o ofalwr maeth sef cwpl 'di priodi mewn tŷ sy'n berchen arnyn nhw.

"Tydy hwnna ddim yn wir. Mae gennym gofalwyr maeth sengl sy'n byw mewn tai rhent, sy'n iawn."

Wrth i Annesa edrych 'n ôl ar ei magwraeth, mae'n werthfawrogol iawn.

Gyda'r awydd i ddechrau maethu ei hun yn y dyfodol y gobaith yw bydd mwy yn dilyn y trywydd yma i gynnig dechrau newydd i fwy o blant a phobl ifanc.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.