Newyddion S4C

Disgwyl tro pedol ar ail-adeiladu pont a chwalodd mewn storm ar ôl gwario £1.5 miliwn

Pont Llanerch

Mae rhai cynghorwyr yn anhapus ar ôl tro pedol ar gynllun i ail-adeiladu pont a chwalodd mewn storm dros bedair blynedd yn ôl.

Fe wnaeth Pont Llanerch ger Trefnant chwalu yn ystod Storm Christoph ym mis Ionawr 2021 ac mae £1.5 miliwn eisoes wedi ei wario ar y gwaith i gynllunio pont newydd.

Ond mae pwyllgor archwilio bellach wedi argymell peidio â bwrw ymlaen â’r gwaith, gan ddweud y gallai beryglu cyflenwad dŵr 85,000 o gartrefi.

Roedd yr hen bont uwchben dyfrhaen (aquifier) dŵr croyw sydd yn cael ei ddefnyddio gan Ddŵr Cymru i gyflenwi dŵr yfed i'r ardal.

Er mwyn adeiladu'r bont newydd, byddai angen i beirianwyr ddrilio i mewn i’r haenau tywodfaen o dan y bont, a allai greu holltau a fyddai'n halogi'r dŵr.

Mae swyddogion y cyngor bellach wedi argymell bod cynghorwyr yn gwrthod y cynlluniau.

Dywedodd y cyngor eu bod nhw eisoes wedi gwario £1.5m ar y gwaith cynllunio. Fe fyddai'r bont derfynol wedi costio £8 i £10m arall i’w hadeiladu.

Dywedodd Cynghorydd ward Tremeirchion, Chris Evans, ei fod yn anhapus gyda’r bwriad i ddod â’r cynlluniau i ben.

“Roedden ni’n gwybod am y ddyfrhaen pan ddechreuon ni,” meddai.

“Pam ydan ni wedi gwario dros filiwn o bunnoedd ar gynlluniau a chyfarfodydd i gwblhau’r bont? 

“Mae yn y cynllun corfforaethol. Mae’n llwybr pwysig, yn gyswllt pwysig, nid yn unig i’r pentrefi lleol ond i bobl sy’n mynd i’r A55.

“Mae costau byw, a phrisiau tanwydd, yn anferth.”

Ychwanegodd bod angen edrych ar adeiladu pont dros dro.

“Os ydych chi'n dweud wrtha i, yn 2025, na allwn ni ymestyn dros 10, 15, neu 20 troedfedd o ddŵr yn y byd rydyn ni'n byw ynddo, mae gennym ni broblemau mawr,” meddai.

'Ddim yn hapus'

Dywedodd y Cynghorydd James Elson, sy’n cynrychioli Trefnant, bod pont dros dro wedi ei drafod dwy flynedd yn ôl.

“Ond ar y pryd, roedden nhw eisiau ateb parhaol,” meddai.

“Nawr rydyn ni’n cyrraedd y pwynt lle nad oes ateb parhaol, felly, pam na fyddwn ni’n mynd yn ôl at y syniad o bont dros dro, a allai fod yno am ddeng mlynedd?

“Dydw i ddim yn hapus nad ydyn nhw’n gallu dod o hyd i ateb.”

Fe fydd y cyngor yn trafod y pwnc ddydd Mawrth, 27 Mai.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.