Newyddion S4C

Cynllun i gynnig prydiau iachach mewn ysgolion cynradd Cymru

Cynllun i gynnig prydiau iachach mewn ysgolion cynradd Cymru

Rhowch o yn eich ceg!"

Yn Ysgol Bryn Tabor yng Nghoedpoeth ger Wrecsam mae plant yn blasu ffrwythau yn y dosbarth a dysgu am fwydydd iach.

"Mae'n bwysig iawn iddyn nhw ddysgu am fwydydd iach beth sy'n dda iddyn nhw a magu hyder i drio pethau gwahanol."

Bwriad Llywodraeth Cymru yw cyflwyno rheolau newydd gyda phrydau mewn ysgolion cynradd sydd ar gael am ddim yn iachach.

Yn y dyfodol bydd rhaid i ysgolion ddarparu dau ddogn o lysiau bob dydd a phedwar math gwahanol o ffrwythau.

Bydd cig coch ar gael hyd at ddwywaith yr wythnos ond cig wedi'i brosesu unwaith yn unig.

Bydd pwdinau melys ar gael tridiau'r wythnos a dim sudd ffrwythau na diodydd eraill sy'n llawn siwgr.

Mae'r cynlluniau wedi'u croesawu gan y darlithydd a'r deietegydd, Beca Lyne-Pirkis.

"Mae sawl plenty yn dod i'r ysgol heb frecwast.

"Os mae'r prydau sydd ar gael ddim yn siwtio nhw efallai bydden nhw'n mynd heb lot i ginio.

"Bydd yn effeithio gallu nhw i ddysgu a gallu nhw i dyfu.

"Fi'n gobeithio gallwn ni sortio rhywbeth allan efo hwn."

"Ar y llinell dop, ysgrifennwch be dach chi'n meddwl yw e."

Roedd disgyblion Ysgol Bryn Tabor yn amlwg wedi mwynhau blasu'r bwydydd.

"Fi'n hoffi cael y veg mewn winner, winner chicken dinners."

"Ni'n cael ffrwythau a llysiau protein a chynnyrch llaeth."

"Un, dau, tri, i'r ceg a fo!"

Gweini bwydydd mae plant yn fodlon eu bwyta yw'r ateb yn ôl Beca Lyne-Pirkis.

"Gallen ni ddweud beth a pha fath o brydau fysa'n dda ond diwedd y dydd, y plant sy'n cael y mwyaf allan ohono fe.

"Sdim rhaid i'r prydiau fod yn ffansi.

"Rhaid iddynt roi'r egni a'r maeth iawn a bod y plant yn bwyta nhw."

Mae'r cyfnod ymgynghori ar y rheolau newydd yn parhau tan ddiwedd Gorffennaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.