
Ymchwiliad yn codi pryder am allu Gwasanaeth Tân De Cymru ‘i gadw pobl yn ddiogel’
Mae pryderon dros allu Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i “gadw pobl yn ddiogel” a “lleihau’r risg i’r cyhoedd” yn ôl canfyddiadau ymchwiliad diweddar.
Fe gafodd yr ymchwiliad gan Arolygaeth Heddlu a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (AHTAEF) ei gynnal rhwng mis Gorffennaf a mis Tachwedd 2024.
Fe wnaeth yr ymchwiliad ddarganfod bod proses y gwasanaeth o gadw cofnodion yn ei rwystro rhag “amddiffyn diffoddwyr tân, y cyhoedd a’u heiddo yn ystod argyfwng” yn effeithiol.
“Dydy’r gwasanaeth ddim pob amser yn blaenoriaethu’r rhai sydd mewn mwyaf o berygl,” yn ôl yr ymchwiliad.
‘Newidiadau mawr'
Dywedodd y gwasanaeth bod ganddyn nhw “gynllun cadarn" i ddelio gyda’r awgrymiadau ddaeth o ganlyniad i'r ymchwiliad, a bod newidiadau sylweddol wedi digwydd ers i’r ymchwiliad gymryd lle.
Fel arfer dyw AHTAEF ddim yn asesu’r gwasanaethau tân yng Nghymru, ond yn dilyn cyfres o sgandalau o fewn Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, fe wnaeth y pedwar comisiynydd sy’n goruchwylio’r gwasanaeth ofyn am yr ymchwiliad er mwyn “gosod y safon ar gyfer gwelliannau’r dyfodol.”
Dywedodd awdur ymchwiliad AHTAEF: “Yn anffodus, mae gen i bryderon am berfformiad y gwasanaeth i gadw pobl yn ddiogel rhag tân a pheryglon eraill.
“Yn benodol, mae gen i bryderon dros effeithiolrwydd strategaethau’r gwasanaeth i adnabod, blaenoriaethu a lleihau peryglon.”
Cafodd y gwasanaeth hefyd ei feirniadu am ei werthoedd a’i ddiwylliant.
“Mae rhaid i’r gwasanaeth fod yn fwy ymarferol wrth fynd i’r afael â bwlio, aflonyddwch ac anffafriaeth yn y gweithle. Mewn arolwg, dywedodd 17% o’r staff wrthym eu bod yn teimlo’u bod nhw wedi cael eu bwlio neu’u haflonyddu yn y gweithle yn ystod y 12 mis diwethaf,” medd yr ymchwiliad.
‘Anodd i’w ddarllen’
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wrth ITV Cymru bod camau wedi’u cymryd i ymateb i'r materion a godwyd yn yr ymchwiliad.
Mewn datganiad, dywedodd Prif Swyddog y gwasanaeth, Fin Monahan: “Mae’r ymchwiliad yn un anodd i’w ddarllen. Y prif ardaloedd i ni wella ynddynt ydy deall peryglon tân ac argyfyngau eraill ac i warchod y cyhoedd trwy reoliadau tân.
“Dwi’n croesawi’r ymchwiliad yma. Dyma’r tro cyntaf i ni gael sylw i ymchwiliad mor fanwl. Mae’n bwysig cofio fod llawer o amser wedi mynd heibio ers yr ymchwiliad.”
Ychwanegodd y gwasanaeth tân: “Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth eithriadol.”

Yn ôl canllawiau AHTAEF, mae gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru 28 diwrnod i “ddatblygu cynllun gweithredu” mewn ymateb i’r materion gafodd eu codi yn yr ymchwiliad.
Dywedodd Llywodraeth Cymru: “Fe wnaethon ni benodi comisiynwyr i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn 2024, gan bod gennym ni bryderon difrifol ynghylch gallu’r gwasanaeth i weithredu’n ddiogel ac yn effeithiol.
“Mae’r comisiynwyr a Phrif Swyddog Tân newydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi dechrau cynnwys argymhellion AHTAEF yn eu cynllun trawsnewid.
“Byddwn yn parhau i weithio gyda’r comisiynwyr a’r Prif Swyddog Tân ar gyflawni eu bwriad i wella.”